Gwasanaethu ystafelloedd a’u glanhau’n ddwfn yn rheolaidd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwasanaethu ystafelloedd a’u glanhau’n ddwfn yn rheolaidd. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys troi matresi, newid llenni neu dynnu llwch o ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae ar gyfer cynorthwywyr cadw tŷ a staff glanhau. Maen nhw’n dasgau pwysig y gallai cwsmeriaid sylw arnynt os nad ydynt yn cael eu gwneud. Gall cwsmeriaid fod yn gyflym iawn i roi sylw, yn enwedig ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gwasanaethu ystafelloedd a’u glanhau’n ddwfn yn rheolaidd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio amserlenni ar gyfer cynlluniau i wasanaethu ystafelloedd neu eu glanhau’n ddwfn a chyfrifo faint o amser sydd gennych ar gyfer pob tasg ac ystafell
- Gwirio bod gennych y wybodaeth angenrheidiol am yr amserlen a’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ystafelloedd neu eu glanhau’n ddwfn yn rheolaidd
- Gofyn am gymorth â thasgau y mae angen mwy nag un person i’w cwblhau
- Cael y stoc gofynnol i amnewid eitemau yn yr ystafell
- Paratoi’r ardal ar gyfer gwasanaethu’r ystafell neu ei glanhau’n ddwfn yn rheolaidd
- Dewis y cyfarpar a’r deunyddiau glanhau cywir ar gyfer pob rhan o’r ardal
- Cyflawni gwasanaethu neu lanhau dwfn gofynnol rheolaidd yr ystafell
- Gadael yr ystafell yn y cyflwr gofynnol
- Dilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer yr eitemau rydych chi wedi eu hamnewid
- Nodi a rhoi gwybod am unrhyw beth sydd angen cynnal a chadw arbenigol
- Gwirio’r ystafell yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr amserlen ar gyfer gwasanaethu ystafelloedd a’u glanhau’n ddwfn yn rheolaidd yn eich sefydliad a pham mae amserlenni’n bwysig
- Pam mae’n bwysig dilyn yr amserlen hon
- Pam mae angen archwilio’r ardal weithio ar ôl cwblhau
- Safonau ansawdd eich sefydliad ar gyfer golwg a glendid ystafelloedd
- Ardaloedd ac eitemau y gall fod angen cynnal a chadw arbenigol arnynt, a sut i roi gwybod am y rhain
- Sut i nodi eitemau y mae angen eu hamnewid a chael yr eitemau cywir
- Y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio ag eitemau rydych chi wedi’u hamnewid
- Y paratoadau y mae angen i chi eu gwneud ar gyfer glanhau dwfn rheolaidd a pham mae’r rhain yn bwysig
- Y cyfarpar a’r deunyddiau y mae eu hangen arnoch ar gyfer glanhau dwfn rheolaidd, a sut i'w cael
- Sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r deunyddiau yn effeithlon ac yn ddiogel
- Gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer tynnu llwch / glanhau ardaloedd anodd eu cyrraedd
Cwmpas/ystod
1. Gwasanaethu ystafelloedd yn rheolaidd
1.1 troi matresi
1.2 newid llenni
1.3 newid deunyddiau dodrefnu meddal eraill, fel y bo angen
1.4 unrhyw weithgarwch sefydliadol arall o ran gwasanaethu a glanhau ystafelloedd
2. Paratoadau
2.1 defnyddio dillad diogelu priodol
2.2 symud dodrefn i lanhau oddi tanynt
2.3 gwarchod ardaloedd bregus cyfagos
3. Glanhau dwfn rheolaidd
3.1 tynnu llwch o ardaloedd anodd eu cyrraedd
3.2 sugno llwch oddi tan ddodrefn ac ymylon carpedi
3.3 glanhau dolenni cawod, trapiau plygiau, draeniau, gylïau a’r tu ôl i bedestalau
3.4 glanhau cordiau tynnu, plygiau a switshis
3.5 glanhau byrddau sgyrtin a pheintwaith arall
3.6 glanhau awyrellau ac echdynnwyr aer
3.7 unrhyw weithgarwch sefydliadol arall o ran glanhau dwfn rheolaidd
4. Gwirio
4.1 eich hun
4.2 gan oruchwylydd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dillad amddiffynnol
Er enghraifft, gwisg a menig
Tynnu llwch o ardaloedd anodd eu cyrraedd
Er enghraifft, gorchuddion lamp, bylbiau golau, rheiliau pictiwr
Cynnal a chadw arbenigol
Er enghraifft, amnewid eitemau diffygiol
Deunyddiau dodrefnu meddal
Gan gynnwys blancedi, cwrlidau a chlustogau
Llenni
Gan gynnwys llenni net a llenni cawod