Darparu gwasanaeth dillad gwely
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn danfoniadau cyflenwadau dillad gwely, gwirio danfoniadau a llenwi unrhyw ffurflenni perthnasol. Mae’r safon hon yn ymwneud â storio dillad gwely o dan amodau cywir a chan ddefnyddio gweithdrefnau cylchdroi stoc. Gallai’r safon hon fod ar gyfer ceidwad dillad gwely, un o’r staff cadw tŷ neu staff glanhau, neu i berchennog sefydliad bach.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu gwasanaeth dillad gwely
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cyfleu delwedd gadarnhaol o’ch sefydliad i gwsmeriaid allanol a mewnol
- Gwirio danfoniadau o gyflenwadau dillad gwely i sicrhau eu bod yn cyfateb i archebion a nodiadau danfon
- Cwblhau dogfennau danfon yn gywir
- Rhoi gwybod i’r aelod priodol o staff am unrhyw anghysondebau â danfoniadau
- Symud dillad gwely glân yn ddiogel i’r ardal storio
- Gwirio bod dillad gwely yn bodloni gofynion cyflwyno a rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau i’r aelod priodol o staff
- Cadw ardaloedd derbyn yn lân, yn daclus, yn hylan ac yn ddiogel
- Storio cyflenwadau dillad gwely o dan yr amodau cywir
- Dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc
- Dosbarthu’r math a’r nifer cywir o ddillad gwely i staff
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn o eitemau sy’n cael eu derbyn, eu storio a’u dosbarthu
- Rhoi gwybod am arwyddion o stoc coll ar unwaith
- Cadw ardaloedd storio yn lân, yn sych ac yn ddiogel
- Rhoi gwybod am arwyddon o blâu ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel wrth ddelio â dillad gwely a’u storio
- Pwysigrwydd cyfleu delwedd gadarnhaol i gwsmeriaid mewnol ac allanol/ymwelwyr
- Pam na ddylech chi dderbyn nwyddau wedi’u difrodi
- Pa weithdrefnau y dylech eu dilyn os nad yw’r swm sydd wedi’i ddanfon yn cyfateb i’r archeb a’r nodiadau danfon
- Pa weithdrefnau y dylech eu dilyn os nad yw’r dillad gwely sy’n cael eu danfon yn bodloni safonau cyflwyno gofynnol
- Beth ddylech ei wneud os byddwch yn sylwi ar bỳcs neu bla arall mewn dillad gwely glân
- Pam dylech gadw ardaloedd derbyn yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
- Pam ddylech wirio bod y dillad gwely rydych chi’n eu derbyn wedi’u plygu’n gywir
- Pam mae amodau storio yn bwysig a pha effaith y cânt ar eitemau dillad gwely sy’n cael eu storio
- Pa weithdrefnau y dylech eu dilyn i storio dillad gwely a pham mae gweithdrefnau cylchdroi stoc yn bwysig
- Pa weithdrefnau y dylech eu dilyn i ddosbarthu eitemau dillad gwely i staff
- Pam dylech chi gadw cofnodion cywir o eitemau dillad gwely glân sy’n cael eu derbyn, eu storio a’u dosbarthu
- Pam mae’n bwysig diogelu storfeydd dillad gwely rhag mynediad heb ei awdurdodi
- Pa weithdrefnau y dylech eu dilyn i wneud yn siŵr nad oes plâu yn digwydd
- Beth ddylech ei wneud os byddwch yn sylwi ar bla
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth storio dillad gwely, a sut dylech ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Danfoniadau
16.1 cyflenwad dillad gwely mewnol
16.2 cyflenwad dillad gwely allanol
2. Gofynion cyflwyno
2.1 glân
2.2 heb staeniau
2.3 heb ddifrod i’r ffabrig
2.4 wedi’u plygu’n gywir
3. Amodau
3.1 goleuo
3.2 awyru
3.3 tymheredd
3.4 glendid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyflenwad dillad gwely mewnol
Er enghraifft, o adrannau eraill yn eich sefydliad
Plâu
Er enghraifft, pỳcs, llygod mawr, llygod, chwilod du (cocrotsis)
Ardal dderbyn
Ble bynnag yn eich gweithle rydych chi’n derbyn danfoniadau