Glanhau a chynnal a chadw lloriau a dodrefn meddal
URN: PPL2HK5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau lloriau neu ddodrefn meddal, gan gynnwys gwaredu staeniau ac ychwanegu triniaethau annibynnol at garpedi a dodrefn meddal. Mae ar gyfer staff sydd wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i gyflawni’r tasgau hyn o ran lloriau a dodrefn meddal yn rheolaidd. Gallent fod yn staff cadw tŷ neu’n staff glanhau.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau a chynnal a chadw lloriau a dodrefn meddal
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod lefel eich hylendid personol yn cyrraedd safonau’r fanyleb a’i bod yn cael ei chynnal trwy gydol y broses lanhau
- Nodi’r defnydd cywir i’w drin a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol a darbodus i’w darparu
- Archwilio’r defnydd i wneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y driniaeth arfaethedig, o ystyried natur y defnydd a’r math o fudreddi, ei safle, ei ffurf a faint ohono sydd
- Nodi p’un a yw lliw’r defnydd yn barhaol ac nad yw’r defnydd yn pannu
- Nodi a rhoi gwybod am arwynebau sydd wedi’u difrodi neu sy’n dirywio, a/neu arwynebau y gall fod angen gwaith adfer arnynt
- Chwilio am unrhyw ffactorau a fydd yn effeithio ar sut rydych chi’n glanhau’r defnydd, a’u nodi
- Dilyn unrhyw safonau y mae angen eu cymhwyso i’r gwaith heblaw am gyfarwyddiadau eich goruchwylydd yn gysylltiedig â’r defnydd byddwch chi’n ei drin
- Gwirio bod digon o awyru yn yr ardal weithio fel eich bod yn gysurus wrth lanhau’n ddwfn ac i gynorthwyo ag unrhyw broses sychu
- Symud gwrthrychau symudadwy a all fod yn y ffordd tra byddwch chi’n gweithio
- Paratoi eich ardal weithio a’ch cyfarpar fel y gallwch wneud y gwaith yn effeithlon, yn gywir ac yn ddiogel
- Gwaredu llwch a malurion cyn eich bod yn ychwanegu’r cyfrwng neu’r driniaeth lanhau
- Meddalu budreddi sydd wedi’i sathru a staeniau cyn ceisio cael gwared arnynt
- Ychwanegu’r driniaeth yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a heb orwlychu na difrodi’r defnydd
- Archwilio’r ardal wedi’i thrin ac ychwanegu mwy o driniaeth os bydd yn helpu i waredu’r staen yn ddiogel
- Gwirio bod golwg gyson ar arwynebau pan fyddwch chi wedi gorffen eich gwaith
- Gadael y defnydd yn rhydd rhag lleithder gormodol a budreddi wedi’i sathru iddo pan fyddwch chi wedi gorffen
- Rhoi popeth yn ei ôl fel y’i cawsoch ef
- Gwaredu gwastraff yn unol â chanllawiau’r gweithle
- Dweud wrth y person perthnasol am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pam mae’n bwysig cael manyleb glanhau gyfredol ac oddi wrth bwy y gallwch gael hon
- Lefel yr hylendid personol sy’n ofynnol ar gyfer yr ardal lle’r ydych chi’n gweithio, pam mae’n bwysig cynnal hylendid personol a pham mae angen tynnu eitemau personol a ble ddylent gael eu storio wrth lanhau
- Pam mae gwiriadau a chyfyngiadau ar waith ar gyfer defnyddio cyfarpar glanhau dwfn a pham mae’n rhaid cadw at y rhain
- Cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch sefydliadol a pham ddylid gwirio’r rhain yn erbyn gweithdrefnau’r gweithle
- Y dulliau trin sydd ar gael a’r mwyaf effeithiol a darbodus i’w defnyddio
- Sut i asesu p’un a yw’r defnydd yn addas ar gyfer y driniaeth arfaethedig a pha ffactorau i’w hystyried
- Pam mae’n bwysig gwaredu mân lwch a malurion cyn dechrau’r broses glanhau dwfn
- Sut i feddalu budreddi wedi’i sathru a/neu staeniau, pryd mae’n ddigon meddal a pham mae angen gwneud hyn a pham mae’n bwysig gwneud hyn
- Sut i nodi’r man mwyaf priodol i gynnal prawf glanhau a pham dylai hyn gael ei wneud cyn ychwanegu triniaethau
- Yr amgylchiadau pryd y dylai cyfarpar ac arwynebau gael eu trin ymlaen llaw
- Pam dylai triniaethau gael eu rhoi ar ddefnyddiau yn wastad ac effeithiau peidio â gwneud hynny
- Sut i lanhau’n drefnus, sut y gallwch leihau lledaenu llwch a pham mae hyn yn bwysig
- Sut i osgoi difrodi’r arwynebau a chanlyniadau posibl difrodi’r arwynebau
- Pam mae’n bwysig cymryd camau rhagofalus wrth lanhau eitemau rhydd, fel rygiau
- Peryglon gweithio ar uchder gan ddefnyddio ysgol a sut i wneud hynny’n ddiogel
- Pam mae’n bwysig cael gwared ar unrhyw leithder gormodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2HK5
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell
Cod SOC
6231
Geiriau Allweddol
glanhau, cynnal a chadw, lloriau meddal, dodrefn