Glanhau, cynnal a chadw a gwarchod lloriau caled
URN: PPL2HK4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau, cynnal a chadw a gwarchod lloriau rhannol galed gan ddefnyddio cyfarpar â llaw, fel brwshys, mopiau a sugnwyr llwch. Mae ar gyfer staff sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ar y maes gwaith hwn ac sy’n ei gyflawni’n rheolaidd.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau, cynnal a chadw a gwarchod lloriau caled
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi eich ardal weithio a’ch cyfarpar fel y gallwch wneud y gwaith yn effeithlon, yn gywir ac yn ddiogel
- Gwirio bod lefel eich hylendid personol yn cyrraedd safonau’r sefydliad a’i bod yn cael ei chynnal trwy gydol y broses lanhau
- Gwirio bod y cyfarpar diogelu personol gofynnol ar gael i’w ddefnyddio a’i fod yn cael ei ddefnyddio wrth lanhau lloriau
- Nodi’r cyfarpar/ardal weithio gywir ar gyfer y driniaeth a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol a darbodus i’w darparu
- Nodi a rhoi gwybod am arwynebau sydd wedi’u difrodi neu sy’n dirywio, a/neu arwynebau y gall fod angen gwaith adfer arnynt
- Chwilio am unrhyw ffactorau a fydd yn effeithio ar sut rydych chi’n glanhau’r llawr, a’u nodi
- Dilyn unrhyw safonau y mae angen eu cymhwyso i’r gwaith o ffynonellau heblaw am gyfarwyddiadau eich goruchwylydd
- Gwirio bod digon o awyru yn yr ardal weithio fel eich bod yn gysurus wrth lanhau ac i gynorthwyo â’r broses sychu
- Dewis cyfarpar a chyfryngau glanhau sy’n briodol ar gyfer y llawr, faint o fudreddi sydd wedi’i sathru arno a’r araen warchodol
- Clirio unrhyw falurion mawr â llaw yn gyntaf
- Gwaredu’r llwch a’r malurion rhydd yn ofalus ac yn ddiogel, heb wneud i’r llwch ledaenu
- Rhoi gwybod i’r person cyfrifol am unrhyw hylifau’r corff sydd wedi gollwng neu ollyngiadau eraill nad ydych yn eu hadnabod, a dim ond eu clirio pan gewch ganiatâd i wneud
- Dewis dull clirio gollyngiad sy’n gywir ar gyfer y llawr a’r math o ollyngiad a faint ohono sydd
- Meddalu budreddi sydd wedi’i sathru a staeniau cyn ceisio cael gwared arnynt
- Glanhau ardal brawf yn yr ardal lle y bydd pobl yn lleiaf tebygol o sylwi ar farciau
- Ychwanegu’r driniaeth yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a heb orwlychu na difrodi’r arwyneb
- Rhoi gwybod am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt
- Gadael y llawr yn rhydd rhag budreddi sydd wedi’i sathru iddo ac araen warchodol, wedi’i niwtraleiddio, yn sych a heb olion
- Rhoi’r ardal yn ôl fel y’i cawsoch hi
- Gwaredu unrhyw driniaethau glanhau heb eu defnyddio a chynhyrchion gwastraff yn unol â canllawiau’r gweithle a chanllawiau amgylcheddol a chynaliadwyedd
- Dewis araen amddiffynnol a chyfarpar sy’n gywir ar gyfer arwyneb y llawr
- Ychwanegu’r nifer ofynnol o araenau gwarchodol yn llyfn ac yn systematig, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Gadael y llawr yn sych, gyda gorffeniad llyfn ac yn rhydd rhag llwch
- Gwaredu unrhyw ddeunyddiau heb eu defnyddio yn gywir a rhoi popeth yn ôl yn y lle cywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Enghreifftiau o loriau caled a rhannol galed
- Sut i baratoi ar gyfer glanhau lloriau caled
- Lefel yr hylendid personol sy’n ofynnol ar gyfer yr ardal lle’r ydych chi’n gweithio, pam mae’n bwysig cynnal hylendid personol a pham mae angen tynnu eitemau personol a ble ddylent gael eu storio wrth lanhau
- Cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch sefydliadol a pham dylid gwirio’r rhain yn erbyn gweithdrefnau’r gweithle
- Pam mae gwiriadau a chyfyngiadau ar waith ar gyfer defnyddio cyfarpar glanhau dwfn, pam mae’n rhaid cadw at y rhain a beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n cymryd y camau diogelwch cywir
- Beth yw ystyr codau lliw a pham mae’n bwysig
- Y ffactorau a fydd yn effeithio ar sut byddwch chi’n glanhau’r llawr
- Pam dylech chi glirio malurion mawr â llaw yn gyntaf
- Technegau trin diogel ar gyfer malurion mawr
- Gwahanol ddulliau o waredu llwch a malurion rhydd, sut i ddewis y dull cywir a’r cynhwysydd cywir i roi’r llwch a’r malurion ynddo
- Sut i adnabod gwahanol fathau o ollyngiadau / hylifau’r corff, pam mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw ollyngiadau / hylifau’r corff nad ydych yn eu hadnabod a peidio â chlirio’r rhain hyd nes cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny’n ddiogel
- Gwahanol ddulliau o waredu gollyngiadau a sut i ddewis y dull cywir
- Y dulliau triniaeth sydd ar gael a’r mwyaf effeithiol a darbodus i’w defnyddio
- Sut i nodi’r man mwyaf priodol i gynnal prawf glanhau a pham ddylai hyn gael ei wneud cyn ychwanegu triniaethau
- Yr amgylchiadau pryd y dylai cyfarpar ac arwynebau gael eu trin ymlaen llaw
- Pam dylai triniaethau gael eu rhoi ar arwynebau yn wastad ac effeithiau peidio â gwneud hynny
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybod am unrhyw staeniau na allwch gael gwared arnynt
- Pam mae’n bwysig cael gwared ar hylifau glanhau sy’n weddill yn gywir a sut i wneud hynny
- Pam mae’n rhaid gadael y llawr yn rhydd rhag budreddi sydd wedi’i sathru iddo ac araenau gwarchodol a beth allai ddigwydd os na wneir hynny
- Pwysigrwydd gadael y llawr wedi’i niwtraleiddio a beth allai ddigwydd os na fydd hyn yn cael ei wneud
- Amrywiaeth o araenau gwarchodol sydd ar gael, sut i ddewis yr un sy’n gywir i arwyneb y llawr a sut i benderfynu ar nifer gywir yr araenau gwarchodol
- Sut i ychwanegu’r araen yn llyfn ac yn systematig, a pham
- Sut i fwrneisio’r llawr yn systematig, gan gael y sglein gofynnol
- Sut i gael gwared ar araenau gwarchodol heb eu defnyddio yn gywir
- Pwysigrwydd rhoi pethau yn eu hôl fel y’u cawsoch chi nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2HK4
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell
Cod SOC
6231
Geiriau Allweddol
glanhau, cynnal a chadw, gwarchod, lloriau caled