Cynnal cyflenwadau cadw tŷ

URN: PPL2HK3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn cyflenwadau cadw tŷ a gwirio am unrhyw anghysondebau mewn danfoniadau. Hefyd, mae’n ymwneud â storio cyflenwadau cadw tŷ yn gywir a dosbarthu’r cyflenwadau cywir i staff eraill. Mae ar gyfer cynorthwywyr cadw tŷ a staff storfeydd dillad gwely a fyddai’n derbyn danfoniadau ac yn dosbarthu cyflenwadau.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal cyflenwadau cadw tŷ


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cyflwyno’ch hun yn gadarnhaol i staff danfon allanol a mewnol
  2. Derbyn danfoniadau cyflenwadau cadw tŷ a gwirio nad ydynt wedi cael eu difrodi a’u bod o fewn eu dyddiad defnyddio erbyn
  3. Sicrhau bod danfoniada’n cyfateb i archebion a nodiadau danfon
  4. Cwblhau dogfennau danfoniadau yn gywir
  5. Trin a symud cyflenwadau cadw tŷ i ardaloedd storio yn ddiogel, heb eu difrodi na’u colli
  6. Cadw ardaloedd derbyn yn lân, yn daclus, yn hylan ac yn ddiogel
  7. Storio cyflenwadau cadw tŷ o dan yr amodau storio cywir
  8. Dosbarthu cyflenwadau cadw tŷ, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  9. Dilyn gweithdrefnau dosbarthu a chylchdroi stoc
  10. Rhoi gwybod i’r person priodol am lefelau isel o gyflenwadau cadw tŷ
  11. Cadw ardaloedd storio yn lân, yn daclus ac yn hylan, gan roi gwybod ar unwaith am arwyddion o blâu
  12. Diogelu ardaloedd storio rhag mynediad heb ei awdurdodi
  13. Cyfeirio pob tasg sydd y tu hwnt i faes eich cyfrifoldeb chi at y person priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol sy’n gysylltiedig ag arferion gweithio diogel wrth drin cyflenwadau cadw tŷ
  2. Pwysigrwydd gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon gan aros yn gwrtais ac yn broffesiynol
  3. Pam na ddylech chi dderbyn nwyddau sydd wedi’u difrodi a beth ddylech chi eu wneud os bydd nwyddau wedi’u difrodi yn cael eu danfon
  4. Technegau codi a thrin diogel a pham mae’r rhain yn bwysig
  5. Pam mae’n bwysig cadw’r ardaloedd derbyn yn lân ac yn daclus
  6. Pam mae angen i ardaloedd derbyn a storio fod yn ddiogel rhag mynediad heb ei awdurdodi
  7. Pa weithdrefnau i’w dilyn pan fyddwch chi’n nodi anghysondebau mewn danfoniadau / dogfennau danfon
  8. Pa weithdrefnau i’w dilyn i drin a chludo nwyddau yn ddiogel i ardaloedd storio
  9. Pam mae amodau storio yn bwysig a pha effaith y cânt ar gyflenwadau cadw tŷ
  10. Pa weithdrefnau i’w dilyn i storio nwyddau yn gywir ac yn ddiogel
  11. Pam mae’n bwysig storio cyflenwadau cadw tŷ o dan yr amodau cywir, gan gynnwys yn lân ac yn daclus
  12. Pa weithdrefnau i’w dilyn i ddiogelu ardaloedd storio rhag plâu
  13. Pam ddylid cynnal stoc cyson o gyflenwadau cadw tŷ a beth yw’r lefelau stoc isaf ac uchaf
  14. Pam mae’n bwysig cynnal cofnodion cywir a chyflawn o eitemau sy’n cael eu derbyn, eu storio a’u dosbarthu
  15. Pam mae gweithdrefnau cylchdroi stoc cywir yn bwysig
  16. Pam mae’n bwysig gwahanu gwahanol fathau o stoc, er enghraifft bwyd a chemegion
  17. Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n storio nwyddau a sut i ddelio â’r rhain.

Cwmpas/ystod

1. Danfoniadau
17.1 cyflenwyr mewnol
17.2 cyflenwyr allanol

2. Cyflenwadau cadw tŷ
2.1 cyfarpar
2.2 deunyddiau
2.3 cyflenwadau cwsmeriaid

3. Amodau storio
3.1 goleuo
3.2 awyru
3.3 tymheredd
3.4 glendid


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Danfoniadau mewnol
Er enghraifft, oddi wrth adrannau eraill yn eich sefydliad

Plâu
Er enghraifft, llygod mawr, llygod, chwilod du

Ardal dderbyn
Pa le bynnag yn eich gweithle’r ydych chi’n derbyn danfoniadau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2HK3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell

Cod SOC

6240

Geiriau Allweddol

Cadw tŷ, cyflenwadau