Glanhau a gwasanaethu amrywiaeth o ardaloedd

URN: PPL2HK1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag arferion glanhau dyddiol er mwyn cynnal safonau uchel ac osgoi cwynion posibl. Mae’n ymwneud â glanhau ardaloedd toiled ac ystafelloedd ymolchi, lloriau, waliau a drychau. Hefyd, mae’n ymwneud â glanhau ardaloedd wedi’u dodrefnu a gwaredu gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus. Mae ar gyfer cynorthwywyr cadw tŷ a staff glanhau.
Mae glendid a chynnal a chadw unrhyw sefydliad yn faes y gall gwesteion neu gwsmeriaid fod yn gyflym iawn i wneud sylw amdano, yn enwedig ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau a gwasanaethu amrywiaeth o ardaloedd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio amserlenni ar gyfer y llwyth gwaith arfaethedig
  2. Paratoi ardal yr ystafell ymolchi a’r toiled i’w glanhau a dewis y cyfarpar a’r deunyddiau glanhau cywir ar gyfer pob rhan o ardal y toiled a’r ystafell ymolchi
  3. Glanhau’r toiled a’r ardaloedd cyfagos yn gywir
  4. Glanhau offer yr ystafell ymolchi a’r ardaloedd cyfagos yn gywir
  5. Glanhau’r lloriau, y waliau, y drychau ac ardaloedd eraill yn gywir a gadael yr ardal gyfan yn daclus
  6. Gwirio bod amodau amgylcheddol yn gywir yn unol â gofynion y gweithle
  7. Nodi a rhoi gwybod am unrhyw beth y mae angen ei drwsio neu sydd angen cynnal a chadw yn ardal yr ystafell ymolchi neu’r toiled
  8. Gwirio ardal yr ystafell ymolchi a’r toiled yn derfynol i wneud yn siŵr y bydd yn bodloni’r cwsmer
  9. Paratoi ardaloedd wedi’u dodrefnu i’w glanhau a dewis y cyfarpar a’r deunyddiau glanhau cywir ar gyfer pob rhan o’r ardal
  10. Glanhau gorchudd y llawr yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
  11. Glanhau’r dodrefn yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
  12. Glanhau drychau, gorchuddion waliau ac unrhyw arwynebau eraill a gadael yr ardal gyfan yn daclus
  13. Nodi a rhoi gwybod am unrhyw beth y mae angen ei drwsio neu ei gynnal a chadw yn yr ardal wedi’i dodrefnu
  14. Gwirio’r ardal wedi’i dodrefnu yn derfynol i wneud yn siŵr y bydd yn bodloni’r cwsmer
  15. Gwisgo dillad priodol
  16. Paratoi’r gwastraff i’w waredu gan wneud yn siŵr eich bod yn ei drin yn ofalus
  17. Diheintio’r cynwysyddion gwastraff gan ddilyn gweithdrefnau eich gweithle
  18. Cwblhau a throsglwyddo unrhyw gofnodion o’ch gwaith yn gywir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae’n bwysig ystyried amserlenni wrth lanhau a gwasanaethu amrywiaeth o ardaloedd
  2. Beth i’w wneud os bydd cwsmeriaid yn bresennol pan fyddwch chi’n glanhau ystafelloedd
  3. Pam mae’n bwysig paratoi’r ardal a pharatoi eich hun cyn glanhau a gwaredu gwastraff
  4. Y mathau o eitemau mewn ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd gwely y gall fod angen eu trwsio a’u cynnal a chadw, pam mae’n bwysig rhoi gwybod aem eitemau sydd angen eu trwsio ac i bwy y dylech roi gwybod
  5. Mathau o gofnodion y gall fod angen i chi eu cadw yn gysylltiedig â glanhau
  6. Pam mae angen archwilio’r ardal waith ar ôl cwblhau
  7. Pam dylid cynnal amodau amgylcheddol yn briodol
  8. Safonau eich sefydliad ar gyfer glanhau ardaloedd toiled ac ystafelloedd ymolchi
  9. Pam mae angen arwyddion perygl weithiau wrth baratoi’r ardal weithio
  10. Pa ddeunyddiau a chyfarpar sy’n cael eu defnyddio i lanhau gwahanol ardaloedd o’r ystafell ymolchi a sut i ddewis y rhai cywir
  11. Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n glanhau ystafelloedd ymolchi a thoiledau a sut i ddelio â’r rhain
  12. Safonau eich sefydliad ar gyfer glanhau mewn ardaloedd wedi’u dodrefnu
  13. Technegau codi a chario diogel a pham ddylech chi ddefnyddio’r rhain bob amser
  14. Pa ddefnyddiau a chyfarpar sy’n cael eu defnyddio i lanhau ardaloedd gwahanol wedi’u dodrefnu a sut i ddewis y rhai cywir
  15. Pam mae angen cadw rhai ardaloedd yn ddiogel rhag mynediad heb ei awdurdodi
  16. Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n glanhau ardaloedd wedi’u dodrefnu a sut i ddelio â’r rhain
  17. Sut i adnabod gwahanol fathau o wastraff a sut dylid gwaredu gwahanol fathau o wastraff
  18. Pa ddeunyddiau a chyfarpar sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwaredu gwastraff
  19. Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n gwaredu gwastraff a sut i ddelio â’r rhain

Cwmpas/ystod

1. Paratoadau
1.1 defnyddio cyfarpar diogelu personol
1.2 defnyddio arwyddion perygl
1.3 amddiffyn ardaloedd cyfagos bregus

2. Gwastraff
2.1 gwastraff peryglus
2.2 gwastraff nad yw’n beryglus

3. Dulliau casglu
3.1 casglu allanol
3.2 llosgi/cywasgu
3.3 ailgylchu

4. Dulliau gwirio
4.1 eich hun
4.2 gan oruchwylydd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dillad amddiffynnol
Er enghraifft, gwisg a menig

Gwastraff peryglus
Er enghraifft, cemegion a gwrthrychau miniog

Gwastraff nad yw’n beryglus
Er enghraifft, papur


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2HK1

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

glanhau, gwasanaethu, amrywiaeth o ardaloedd