Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid
Trosolwg
Mae gwasanaethau neu gynhyrchion yn newid yn gyson mewn sefydliadau i gadw i fyny â disgwyliadau cwsmeriaid. Trwy gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion newydd, neu well, gall eich sefydliad gynyddu boddhad cwsmeriaid. Mae’n rhaid i lawer o sefydliadau hyrwyddo’r rhain i allu goroesi mewn byd cystadleuol.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’ch angen i gadw i fyny â datblygiadau newydd ac i annog eich cwsmeriaid i ymddiddori ynddynt wyneb yn wyneb a thrwy gyfryngau fel safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Mae cwsmeriaid yn disgwyl bod mwy a mwy o wasanaethau neu gynhyrchion yn cael eu cynnig i fodloni eu disgwyliadau cynyddol nhw; o gynnig cadw bwrdd swper pan fyddant yn cyrraedd i gynnig gwasanaeth coffi a licorau ar ddiwedd pryd. Mae angen iddynt gael gwybod beth sydd ar gael gan eich sefydliad.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Diweddaru a datblygu eich gwybodaeth am wasanaethau neu gynhyrchion eich sefydliad
- Gwirio gyda phobl eraill pan na fyddwch yn siŵr am fanylion gwasanaeth neu gynnyrch newydd
- Nodi gwasanaethau neu gynhyrchion priodol a all fod o ddiddordeb i’ch cwsmer
- Adnabod cyfleoedd i gynnig gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i’ch cwsmer, a fydd yn gwella profiad y cwsmer
- Dewis yr amser gorau i roi gwybod i’ch cwsmer am wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- Dewis y dull cyfathrebu gorau i gyflwyno’ch cwsmer i wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- Rhoi digon o wybodaeth gywir i’ch cwsmer i’w alluogi i wneud penderfyniad am y gwasanaethau neu’r cynhyrchion ychwanegol
- Rhoi amser i’ch cwsmer ofyn cwestiynau am y gwasanaethau neu’r cynhyrchion ychwanegol
- Dod â’r sgwrs i ben os na fydd eich cwsmer yn dangos diddordeb
- Rhoi gwybodaeth i symud y sefyllfa yn ei blaen pan fydd eich cwsmer yn dangos diddordeb
- Sicrhau cytundeb y cwsmer a gwirio bod y cwsmer yn deall sut mae’r gwasanaeth neu’r cynnyrch yn cael ei ddarparu
- Sicrhau bod y gwasanaethau neu’r cynhyrchion ychwanegol yn cael eu darparu’n brydlon i’ch cwsmer
- Cyfeirio’ch cwsmer at bobl eraill neu ffynonellau gwybodaeth eraill, os nad eich cyfrifoldeb chi yw’r gwasanaethau neu’r cynhyrchion ychwanegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau a systemau eich sefydliad ar gyfer annog y defnydd o wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- Polisi eich sefydliad ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio i hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol
- Sut bydd gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol o fudd i’ch cwsmeriaid
- Sut bydd defnydd eich cwsmer o wasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol o fudd i’ch sefydliad
- Y prif ffactorau sy’n dylanwadu ar gwsmeriaid i ddefnyddio eich gwasanaethau neu gynhyrchion
- Sut i gyflwyno gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gwsmeriaid, gan amlinellu eu buddion, goresgyn amheuon a chytuno i ddarparu’r gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol
- Sut i roi gwybodaeth gytbwys, briodol i gwsmeriaid am wasanaethau neu gynhyrchion