Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
URN: PPL2GEN6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu i leihau’r risg y bydd cwsmeriaid yn bwyta bwyd a allai achosi adwaith alergaidd niweidiol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Leihau risg alergenau i gwsmeriaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol
- Nodi ffynonellau alergenau a phethau sy’n achosi anoddefiadau mewn eitemau ar y fwydlen a chyfwydydd
- Darllen a dehongli labeli a chofnodi presenoldeb alergenau a phethau sy’n achosi anoddefiadau
- Nodi a dadansoddi peryglon posibl traws-halogi
- Darparu gwybodaeth gywir i’r cwsmer
- Defnyddio cyfathrebu effeithiol gyda gwybodaeth gywir i osgoi halogi trwy gamddealltwriaeth
- Rheoli danfoniadau, storio, cylchdroi stoc a manylebau cyflenwyr i amddiffyn rhag halogi ag alergenau a phethau sy’n achosi anoddefiadau
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli alergenau
- Cynnal cofnodion a chyfarwyddiadau cyfredol
- Defnyddio arferion a gweithdrefnau trin bwyd diogel ar gyfer paratoi a gweini bwydydd sy’n rhydd rhag “alergenau penodol” ac sy’n rhydd rhag “pethau sy’n achosi anoddefiadau”
- Lleihau risgiau halogi sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau llif gwaith
- Defnyddio gweithdrefnau storio i atal traws-halogi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Canlyniadau a phrif symptomau halogi ag alergenau a phethau sy’n achosi anoddefiadau
- Y gofynion cyfreithiol perthnasol ar fusnes bwyd i gymhwyso system rheoli diogelwch bwyd ar sail egwyddorion Codex HACCP, a rheoli alergenau
Cwmpas/ystod
Alergenau Bwyd
• Grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten
• Cnau mwnci
• Cnau
• Llaeth
• Soia
• Mwstard
• Bysedd y blaidd
• Wyau
• Pysgod
• Cramenogion
• Molysgiaid
• Hadau sesame
• Seleri
• Sylffwr deuocsid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN6
Galwedigaethau Perthnasol
Lletygarwch
Cod SOC
9264
Geiriau Allweddol
alergenau