Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch

URN: PPL2GEN5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn adlewyrchu canllawiau diogelwch bwyd presennol yn y DU ac mae’n integreiddio themâu allweddol glanhau ac atal halogi. Mae’n rhoi gwybodaeth a sgiliau adolygu peryglon a defnyddio gweithdrefnau seiliedig ar beryglon i staff i gynnal diogelwch bwyd yn eu hadran.

Mae safonau ar wahân ar gael i bobl sy’n coginio ac yn paratoi bwyd, ac i reolwyr a goruchwylwyr sydd â chyfrifoldebau ehangach am ddiogelwch bwyd mewn gweithred arlwyo.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol am hylendid ac ymddygiad personol
  2. Sicrhau bod arwynebau a chyfarpar yn lân ac mewn cyflwr da
  3. Defnyddio clytiau a chyfarpar glân ac addas ar gyfer sychu a glanhau rhwng tasgau
  4. Atal unrhyw arwynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â rhannau’n rhydd rhag cael eu defnyddio, a rhoi gwybod amdanynt i’r person sy’n gyfrifol
  5. Gwaredu gwastraff yn brydlon, yn hylan ac yn briodol
  6. Nodi a gweithredu’n briodol ynghylch unrhyw ddifrod i waliau, lloriau, nenfydau, dodrefn a gosodiadau, a rhoi gwybod i’r person priodol am hynny
  7. Nodi a gweithredu’n briodol ynghylch unrhyw arwyddion o blâu, a rhoi gwybod i’r person priodol am hynny
  8. Cadw cofnodion angenrheidiol yn gywir ac yn gyfredol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Mathau o halogi a thraws-halogi bwyd ac arwynebau, sut gallant ddigwydd a chyfryngau halogi, gan gynnwys arwynebau
  2. Y mathau o wenwyn bwyd, sut gall organebau gwenwyn bwyd halogi bwyd, y ffactorau sy’n galluogi twf organebau gwenwyn bwyd a symptomau cyffredin gwenwyn bwyd
  3. Sut mae hylendid ac ymddygiad personol yn effeithio ar ddiogelwch bwyd
  4. Eich rôl wrth nodi a delio â pheryglon, ac wrth leihau risg halogi
  5. Pwysigrwydd nodi peryglon bwyd yn brydlon a’r effaith bosibl ar iechyd os na nodir peryglon bwyd a delio â nhw’n brydlon
  6. Pwysigrwydd asesiadau risg
  7. Mathau o ymddygiad anniogel a allai effeithio ar ddiogelwch bwyd a pham mae’n bwysig osgoi’r math hwn o ymddygiad wrth weithio gyda bwyd
  8. Y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol ar gyfer diogelwch bwyd, pwysigrwydd cydymffurfio â nhw, goblygiadau diffyg cydymffurfio a rôl swyddogion gorfodi
  9. Pwysigrwydd gwahanu bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio, gwahanu seigiau wedi’u gorffen, a dulliau o wneud hyn
  10. Parth perygl tymheredd, pa fwydydd y mae angen eu cadw ar dymereddau penodedig a sut i sicrhau hyn
  11. Pa weithdrefnau i’w dilyn wrth ddelio â stoc, gan gynnwys danfoniadau, storio, marcio dyddiadau a chylchdroi stoc, a pham mae’n bwysig eu dilyn yn gyson
  12. Pam mae’n bwysig cadw’r amgylchedd ac ardaloedd gweithio yn lân ac yn daclus, a chadw offer, teclynnau a chyfarpar mewn trefn, mewn cyflwr glân a’u eu storio’n gywir
  13. Sut mae dulliau ac amlder glanhau a chynnal cyfarpar, arwynebau a’r amgylchedd yn effeithio ar ddiogelwch bwyd yn y gweithle
  14. Y camau y dylid eu cymryd i ymateb i adnabod perygl bosibl, gan gynnwys y person cywir y dylid rhoi gwybod iddo am broblemau
  15. Y mathau o wastraff bwyd a all ddigwydd yn y gweithle a sut dylid eu trin yn ddiogel yn y gweithle
  16. Y prif fathau o blâu y gallwch ddod ar eu traws mewn gweithrediadau arlwyo, sut i adnabod yr arwyddion eu bod yn bresennol, plâu a all beri risg i ddiogelwch bwyd, sut gallant ddigwydd, sut i’w hadnabod a sut i’w hatal
  17. Pam mae’n rhaid i arwynebau a chyfarpar fod yn lân cyn dechrau tasg newydd a sut i sicrhau hyn
  18. Pam mae’n bwysig defnyddio clytiau a chyfarpar glân ac addas yn unig wrth lanhau rhwng tasgau a sut i wneud hynny
  19. Pam mae arwynebau a chyfarpar sydd wedi’u difrodi neu sydd â rhannau rhydd yn gallu bod yn beryglus i ddiogelwch bwyd a’r mathau o arwynebau a chyfarpar wedi’u difrodi a all achosi peryglon diogelwch bwyd a beth i’w wneud amdanynt
  20. Pam mae’n bwysig clirio a gwaredu gwastraff yn brydlon ac yn ddiogel a sut i wneud hynny
  21. Sut gall difrod i waliau, lloriau, nenfydau, dodrefn a gosodiadau achosi peryglon diogelwch bwyd a’r math o ddifrod y dylech chwilio amdano

Cwmpas/ystod

1. Peryglon / Ffynonellau halogiad
1.1 microbaidd
1.2 cemegol
1.3 ffisegol
1.4 alergenig

2. Cyfryngau halogi
2.1 dwylo
2.2 clytiau a chyfarpar
2.3 arwynebau y mae’r dwylo’n cyffwrdd â nhw
2.4 arwynebau y mae bwyd yn dod i gysylltiad â nhw
2.5 llwybrau halogi

3. Hylendid ac ymddygiad personol
3.1 gwisgo dillad a gorchuddion pen amddiffynnol
3.2 cyffwrdd â bwyd yn uniongyrchol cyn lleied â phosibl
3.3 dilyn gweithdrefnau argymelledig ar gyfer golchi dwylo, gan gynnwys pryd i olchi’ch dwylo (ar ôl mynd i’r tŷ bach, wrth fynd i mewn i ardaloedd paratoi, coginio a gweini bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd a gwastraff, a chyn gweini bwyd)
3.4 rhoi gwybod am dor-croen, cornwydydd, briwiau ac anafiadau
3.5 trin a gorchuddio tor-croen, cornwydydd, heintiau’r croen a briwiau
3.6 rhoi gwybod am afiechydon a heintiau, yn enwedig afiechydon y stumog, cyn mynd i mewn i’r ardaloedd paratoi, coginio a gweini bwyd
3.7 gwallt, croen, ewinedd a dillad glân
3.8 gwisgo gemwaith dim ond yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3.9 cofnodi digwyddiadau
3.10 osgoi ymddygiadau anniogel, gan gynnwys: cyffwrdd â’ch wyneb, eich trwyn neu’ch ceg; cnoi gwm; bwyta; ysmygu – pan fyddwch chi’n gweithio gyda bwyd

3. Arwynebau a chyfarpar
3.1 arwynebau a theclynnau a ddefnyddir yn yr adran
3.2 cyfarpar glanhau priodol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2GEN5

Galwedigaethau Perthnasol

Aelod o'r tîm, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Lletygarwch

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

diogelwch bwyd; peryglon; glanhau