Gosod a chau cegin
URN: PPL2GEN15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod yr holl adnoddau a chyfarpar yn barod ar gyfer gweithrediadau cegin. Hefyd, mae’n disgrifio’r sgiliau sy’n ofynnol i gau’r gegin ar ddiwedd y shifft.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Osod a chau cegin
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Blaenoriaethu eich gwaith a’i gyflawni’n effeithlon wrth baratoi’r gegin ar gyfer gweithrediadau bwyd
- Gwirio bod adnoddau a chyfarpar y gegin yn lân, o’r math cywir, yn ddigonol a’u bod yn gweithio
- Troi cyfarpar priodol y gegin ymlaen ar yr amser cywir ac yn ôl y gosodiad cywir
- Rhoi gwybod am gyfarpar cegin sy’n anhylan neu’n ddiffygiol, neu unrhyw broblemau eraill, i’r person priodol
- Cwblhau gwaith a dogfennaeth yn unol â gofynion cyfreithiol, gweithdrefnau’r gweithle a deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig ag arferion gweithio hylan a diogel wrth baratoi’r gegin ar gyfer gweithrediadau bwyd
- Ceisio cymorth os na allwch baratoi’r gegin o fewn amserau penodedig
- Blaenoriaethu gwaith a’i gyflawni’n effeithlon wrth gau gweithrediadau cegin
- Sicrhau bod yr holl adnoddau a chyfarpar yn lân a storio’r holl adnoddau a chyfarpar yn unol â gofynion eich gweithle a gofynion cyfreithiol
- Gwirio a chofnodi bod cyfarpar storio bwyd yn bodloni gofynion eich gweithle a gofynion cyfreithiol ar gyfer cau cegin
- Gwirio bod cyfarpar coginio wedi’i ddiffodd, bod y plwg wedi’i dynnu, lle bo angen, a’i lanhau gan ddilyn safon y gwneuthurwr a safon eich gweithle
- Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblem gyda chyfarpar
- Cwblhau gwaith a dogfennaeth yn unol â gofynion cyfreithiol, gweithdrefnau’r gweithle a deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel a hylan wrth gau’r gegin yn dilyn gweithrediadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi’r gegin ar gyfer gweithrediadau bwyd
- Sut a pham mae’n bwysig gwirio bod yr holl gyfarpar yn gweithio’n dda ac ymlaen yn barod ar gyfer gweithrediadau bwyd
- Pam mae’n bwysig monitro tymheredd cyfarpar ac ardaloedd storio’r gegin
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi’r gegin ar gyfer gweithrediadau bwyd
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth gau’r gegin yn dilyn gweithrediadau bwyd
- Pam dylai holl offer a chyfarpar y gegin gael eu glanhau a’u storio’n gywir ar ôl eu defnyddio
- Pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau’r gweithle ar gyfer diffodd cyfarpar y gegin, tynnu’r plwg a’i lanhau ar ôl eu defnyddio
- Pam dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau, ac i bwy
- Ymathau o broblemau a all ddigwydd wrth gau’r gegin yn dilyn gweithrediadau bwyd
Cwmpas/ystod
1. Offer
1.1 cyllyll
1.2 teclynnau
2. Cyfarpar cegin
2.1 popty/popty cyfunol
2.2 gridyll
2.3 hob
2.4 ffrïwr
2.5 microdon
2.6 stemiwr
3. Cyfarpar storio bwyd
3.1 storfa sych/pantri
3.2 oergell
3.3 rhewgell
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN15
Galwedigaethau Perthnasol
Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
5435
Geiriau Allweddol
gosod, cau, cegin