Cwblhau cofnodion cegin
URN: PPL2GEN14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chwblhau cofnodion a ddefnyddir yn gyffredin mewn amgylcheddau cegin: er enghraifft, siartiau tymheredd, taflenni amser, ffurflenni adrodd damweiniau, gwybodaeth diogelwch bwyd ac adroddiadau namau ar gyfarpar.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gwblhau cofnodion cegin
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod digon o gofnodion perthnasol yn barod i’w defnyddio yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
- Cwblhau cofnodion yn gywir, yn ddarllenadwy ac yn brydlon yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
- Prosesu cofnodion yn gywir yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
- Ateb unrhyw gwestiynau am gwblhau cofnodion o fewn ffiniau eich awdurdod i ddangos eich dealltwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pa gofnodion y mae angen eu cwblhau yn eich gweithle a pham mae’n bwysig gwneud hynny
- Ble i gael y cofnodion perthnasol a sut i’w cwblhau yn unol â gofynion eich gweithle a gofynion cyfreithiol perthnasol
- Y gweithdrefnau ar gyfer copïo, arbed (yn electronig) neu ffeilio (papur) a gweithredu cofnodion yn eich gweithle
- I bwy a pham y mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda chofnodion
- Pwysigrwydd cwblhau cofnodion yn gywir, yn ddarllenadwy ac yn amserol
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth fonitro a chwblhau cofnodion cegin
Cwmpas/ystod
1. Cofnodion perthnasol
1.1 siartiau tymheredd
1.2 gwybodaeth diogelwch bwyd
1.3 ffurflenni adrodd damweiniau
1.4 adroddiadau namau ar gyfarpar
1.5 adroddiadau defnyddio cyflenwadau
1.6 nodiadau danfon
1.7 rotâu glanhau
1.8 unrhyw gofnodion perthnasol eraill
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN14
Galwedigaethau Perthnasol
Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin
Cod SOC
5435
Geiriau Allweddol
cwblhau, cegin, dogfennaeth, cofnodion