Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn lletygarwch
URN: PPL2GEN13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Gall rhyngweithiadau ar y cyfryngau cymdeithasol effeithio’n uniongyrchol ar enw da eich brand neu eich sefydliad, yn arbennig y ffordd rydych chi’n delio ag ymatebion negyddol a phroblemau, sy’n cael eu tynnu i sylw’r cyhoedd. Mae’r safon hon yn ymwneud â bod yn barod i ddelio â chysylltiadau â chwsmeriaid trwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i fodloni cwsmeriaid trwy fodloni eu disgwyliadau.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Bwrw golwg ar drafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol i adnabod cwsmeriaid perthnasol
- Ymateb i ymholiadau neu geisiadau uniongyrchol trwy gyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddilyn canllawiau sefydliadol ac o fewn amserau ymateb
- Esbonio’ch gwasanaethau neu’ch cynhyrchion a’r gwasanaeth a gynigir gan eich sefydliad yn glir ac yn gryno i’ch cwsmer
- Addasu eich ymateb gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i anghenion eich cwsmer
- Cyflwyno delwedd broffesiynol a pharchus wrth ddelio â’ch cwsmer
- Dehongli anghenion eich cwsmer o naws a dull ei bostiadau
7.Y mateb i’ch cwsmer mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn deall ei anghenion - Dilyn confensiynau’r platfform cyfryngau cymdeithasol a ddewiswyd wrth ymateb i gwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Canllawiau eich sefydliad ar gyfer delio â chwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol
- Gwahanol safleoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio gan eich sefydliad a’ch cwsmeriaid
- Ffyrdd o gyfleu gwybodaeth gwasanaeth cwsmeriaid i safleoedd cyfryngau cymdeithasol
- Sut i chwilio ffynonellau cyfryngau cymdeithasol am bostiadau gan gwsmeriaid
- Sut gall sgorau ar gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein effeithio ar enw da busnes / effaith sylwadau / sgorau cadarnhaol a negyddol ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol
- Sut i ragweld ceisiadau ac anghenion eich cwsmer
- Pwysigrwydd dehongli anghenion ac amgyffredion eich cwsmer o bostiadau ar rwydweithiau’r cyfryngau cymdeithasol
- Sut i ymateb i sylwadau negyddol gan gwsmeriaid
- Confensiynau’r cyfryngau cymdeithasol y mae eich cwsmeriaid yn dewis eu defnyddio
- Pwysigrwydd anfon negeseuon clir a chyson wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
- Sut i reoli mynediad at drafodaethau gyda chwsmeriaid gan ddefnyddio gosodiadau diogelwch y cyfryngau cymdeithasol
- Sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol, gan gynnal enw da eich sefydliad bob amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL2GEN13
Galwedigaethau Perthnasol
Derbynnydd
Cod SOC
4216
Geiriau Allweddol
cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu