Cynnal a delio â thaliadau

URN: PPL2GEN12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal pwynt talu, fel til. Hefyd, mae’n ymwneud â derbyn taliadau gan y cwsmer, gweithio’r til yn gywir a chadw taliadau yn ddiogel.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal a delio â thaliadau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod eich pwynt talu yn gweithio a bod gennych yr holl ddeunyddiau y mae eu hangen arnoch
  2. Cynnal y pwynt talu a’i ailgyflenwi, pan fydd angen
  3. Cofnodi / sganio gwybodaeth i’r pwynt talu yn gywir
  4. Dweud wrth y cwsmer faint mae’n rhaid iddo dalu
  5. Cydnabod taliad y cwsmer a’i ddilysu, lle bo angen
  6. Dilyn y weithdrefn gywir ar gyfer trafodion sglodyn a phin a digyswllt
  7. Rhoi’r taliad yn y lle cywir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Rhoi’r newid cywir mewn trafodion arian parod
  9. Cyflawni trafodion yn ddi-oed a rhoi cadarnhad perthnasol i’r cwsmer
  10. Sicrhau bod cynnwys y pwynt talu ar gael ar gyfer casglu wedi’i awdurdodi, pan ofynnir i chi wneud hynny
  11. Dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gorffen a throsglwyddo ar ddiwedd shifft

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gweithredu pwynt talu a derbyn taliadau gan gwsmeriaid
  2. Gwahanol fathau o gyfarpar a phrosesau talu a ddefnyddir gan sefydliad a dulliau o dalu a dderbynnir
  3. Gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer arian parod a mathau eraill o daliadau
  4. Sut dylech chi sefydlu eich pwynt talu
  5. Sut i gael stociau o ddeunyddiau y mae eu hangen arnoch i sefydlu a chynnal y pwynt talu
  6. Pam mae’n bwysig dweud wrth y cwsmer am unrhyw oedi a sut dylech chi wneud hynny
  7. Y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda’ch pwynt talu a sut i ddelio â’r rhain
  8. Y weithdrefn ar gyfer newid rholyn papur y til / peiriant talu
  9. Y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio â thaliadau
  10. Beth dylech ei wneud os bydd camgymeriadau wrth ddelio â thaliadau
  11. Y gweithdrefnau ar gyfer delio â dyfeisiau talu sy’n cael eu dal â llaw
  12. Pa weithdrefn y mae’n rhaid i chi ei dilyn o ran taliad a wrthodwyd
  13. Beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n rhoi gwybod am gamgymeriadau
  14. Y mathau o broblemau a allai ddigwydd pan fyddwch chi’n derbyn taliadau a sut i ddelio â’r rhain
  15. Y gweithdrefnau ar gyfer casglu cynnwys y pwynt talu, gan gynnwys i bwy y dylech drosglwyddo taliadau
  16. Y gweithdrefnau ar gyfer gorffen a throsglwyddo ar ddiwedd shifft
  17. Beth yw TAW a sut mae’n cael ei hychwanegu at y bil
  18. Sut i ddelio â childwrn arian parod a childyrnau trwy daliadau electronig, yn unol â’ch polisi sefydliadol

Cwmpas/ystod

1. Deunyddiau
18.1 fflôt arian parod
18.2 cyfwerth ag arian parod
18.3 deunydd ysgrifennu perthnasol
18.4 rholiau papur til / peiriant cerdyn
18.5 dyfeisiau sy’n cael eu dal â llaw

2. Taliadau
2.1 arian parod
2.2 cardiau credyd / debyd
2.3 digyswllt e.e. cardiau / tabledi / oriorau / ffonau symudol
2.4 cyfwerth ag arian parod


Cwmpas Perfformiad

Casglu wedi’i awdurdodi
Y person cywir sy’n dod i gasglu’r taliadau o’r til

Cyfwerth ag arian parod
Er enghraifft, talebau, gostyngiadau, cardiau arian cyfred

Pwynt talu
Til, peiriant cerdyn, dyfais electronig (e.e. tabled / cyfrifiadur) neu ddyfais sy’n cael ei dal â llaw


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2GEN12

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Celfyddydau, Crefftau, Celfyddydau creadigol a dylunio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Lletygarwch - Cynorthwyydd cownter, Aelod o'r Criw, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Gweinyddydd Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio

Cod SOC

9264

Geiriau Allweddol

Cynnal, delio, taliadau