Cynnal gwasanaeth i gwsmeriaid yn ystod cyfnod trosglwyddo
Trosolwg
Mae darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn tîm yn cynnwys llawer o sefyllfaoedd pan na fyddwch yn gallu cwblhau gweithredoedd a byddwch yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb amdanynt i gydweithiwr, er enghraifft wrth newid shifft. Dylid trefnu rhannu cyfrifoldeb fel hyn a dylai ddilyn patrwm cydnabyddedig. Yn anad dim, mae angen i chi sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu cwblhau, pan drosglwyddir cyfrifoldeb. Mae hyn yn cynnwys gwirio gyda’ch cydweithwyr, fel mater o drefn, bod gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid wedi’u cwblhau. Mae’r safon hon i chi os yw eich swydd yn cynnwys darparu gwasanaeth fel rhan o dîm ac rydych chi’n trosglwyddo cyfrifoldeb am gwblhau gweithred gwasanaeth cwsmeriaid i gydweithiwr yn rheolaidd.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal gwasanaeth i gwsmeriaid yn ystod cyfnod trosglwyddo
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi gwasanaethau neu gynhyrchion rydych chi’n ymwneud â’u darparu, sy’n dibynnu ar waith tîm effeithiol
- Nodi camau yn ystod y broses drosglwyddo sy’n dibynnu ar gyfnewid gwybodaeth rhyngoch chi a’ch cydweithwyr
- Cytuno â chydweithwyr pan fydd hi’n briodol trosglwyddo cyfrifoldeb am gwblhau gweithred gwasanaeth cwsmeriaid i rywun arall
- Cytuno â chydweithwyr ar sut dylid cyfnewid gwybodaeth rhyngoch chi i alluogi rhywun arall i gwblhau gweithred gwasanaeth cwsmeriaid
- Nodi ffyrdd o’ch atgoffa’ch hun pan fyddwch wedi trosglwyddo cyfrifoldeb i gydweithiwr am gwblhau gweithred gwasanaeth cwsmeriaid
- Nodi pryd i wirio bod gweithred gwasanaeth cwsmeriaid wedi’i chwblhau
- Sicrhau eich bod yn ymwybodol o holl fanylion gweithredodd gwasanaeth cwsmeriaid y dylai eich cydweithiwr fod wedi’u cwblhau
- Gofyn i’ch cydweithiwr am ganlyniad cwblhau’r weithred gwasanaeth cwsmeriaid fel y cytunwyd arno
- Nodi’r gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid nesaf os nad yw eich cydweithwyr wedi gallu cwblhau’r gweithredoedd y cytunoch arnynt yn flaenorol
- Gweithio gyda chydweithwyr i adolygu’r ffordd y mae gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu rhannu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau trosglwyddo eich sefydliad ar gyfer y gwasanaethau neu’r cynhyrchion rydych chi’n ymwneud â’u darparu
- Gweithdrefnau trosglwyddo eich sefydliad a sut mae’r rhain yn amrywio yn ystod a rhwng shifftiau
- Eich rôl a’ch cyfrifoldebau yng ngweithdrefn drosglwyddo’r sefydliad
- Y cydweithwyr priodol i drosglwyddo cyfrifoldeb iddynt am gwblhau gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid penodol
- Ffyrdd o sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo rhyngoch chi a’ch cydweithwyr yn effeithiol
- Pwysigrwydd gwirio gyda chydweithiwr p’un a yw wedi cwblhau’r gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau trosglwyddo sefydliadol
- Cyfleoedd i gyfrannu at adolygu’r ffordd y mae gweithredoedd gwasanaeth cwsmeriaid yn cael eu rhannu mewn prosesau gwasanaeth cwsmeriaid