Delio â chwsmeriaid o ddiwylliant gwahanol
Trosolwg
Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn cael ei ddarparu’n aml i bobl o ddiwylliant gwahanol. Mewn cymdeithas amlddiwylliannol, gall credoau ac arferion llawer o gwsmeriaid amrywio. Gall y gwahaniaeth diwylliannol hwn beri her wirioneddol i bobl sy’n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid o ddiwylliant gwahanol a chyflawni’r ddarpariaeth honno.
Dylech ddewis y safon hon os ydych chi’n delio’n aml â phobl o ddiwylliant gwahanol. Cofiwch, gall cwsmeriaid fod yn allanol ac yn fewnol i’ch sefydliad.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddelio â chwsmeriaid o ddiwylliant gwahanol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi’r diwylliant neu’r diwylliannau heblaw am eich diwylliant eich hun rydych chi’n fwyaf tebygol o ddod ar eu traws wrth ddelio â chwsmeriaid
- Nodi gofynion dietegol, arferion a chredoau nodweddiadol y diwylliannau rydych chi’n debygol o ddelio â nhw
- Nodi cynhyrchion a/neu wasanaethau sy’n addas neu y gellir eu haddasu fel eu bod yn addas i gwsmeriaid o wahanol ddiwylliannau
- Addasu lleferydd, goslef ac iaith y corff yn addas i gwsmeriaid o ddiwylliannau gwahanol
- Delio â cheisiadau gan gwsmeriaid o ddiwylliannau gwahanol o fewn terfynau eich awdurdod eich hun a cheisio help gan y person priodol, os bydd angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y diwylliannau rydych chi’n fwyaf tebygol o ddod ar eu traws ymhlith grwpiau o’ch cwsmeriaid
- Gofynion dietegol, arferion a chredoau’r diwylliannau rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws
- Pam y gallai cwsmeriaid wneud ceisiadau arbennig a sut i ddelio â’r rhain
- Sut i addasu cynhyrchion neu wasanaethau i fodloni anghenion cwsmeriaid o wahanol ddiwylliannau
- Y mathau o geisiadau a gwybodaeth nodweddiadol y gall fod ei hangen ar gwsmeriaid oherwydd gofynion diwylliannol
- Sut i drin cwsmeriaid gyda pharch tuag at eu harferion a’u credoau
- Sut i addasu lleferydd, goslef ac iaith y corff wrth ddelio â chwsmeriaid o ddiwylliannau gwahanol
- Terfynau eich awdurdod eich hun wrth ddelio â chwsmeriaid o ddiwylliannau gwahanol a phwy i droi atynt am help