Delio â chwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â delio â chwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd, gan eu helpu i gofrestru eu hunain, lle bo hynny’n bresennol, prosesu dogfennau cofrestru a hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau’r sefydliad. Mae ar gyfer pobl sy’n delio â chofrestru cwsmeriaid yn rheolaidd. Mae delio â chwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd yn rhan hanfodol o rôl blaen tŷ.
Yn ôl pob tebyg, chi fydd un o’r bobl gyntaf i’r cwsmer gyfarfod â nhw ac mae angen i chi gyfleu delwedd broffesiynol, effeithlon a chroesawgar o’r dechrau’n deg. Mae’n bosibl mai’r argraff gyntaf honno fydd yr unig argraff gaiff cwsmeriaid o’ch sefydliad, felly mae’n hanfodol y bydd yn brofiad cadarnhaol, hyd yn oed os ydych chi’n cynnig gwasanaeth hunangofrestru.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddelio â chwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi gofynion cwsmeriaid yn gywir
- Adalw manylion bwcio’r cwsmer o’r system fwcio a’u gwirio gyda’r cwsmer
- Cynnig dewisiadau yn lle unrhyw wasanaethau nad ydynt ar gael fel y gofynnwyd amdanynt
- Cwblhau’r ddogfen gofrestru yn gywir
- Cofrestru’r cwsmer yn gywir ac yn effeithlon, gan ddilyn pob gweithdrefn sefydliadol, gan gynnwys derbyn taliadau lle bo hynny’n berthnasol
- Rhoi gwybodaeth gywir sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid
- Hyrwyddo gwasanaethau a chyfleusterau eich sefydliad lle bo hynny’n briodol
- Trosglwyddo manylion cwsmeriaid i’r adran berthnasol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- Amddiffyn cyfrinachedd cwsmeriaid wrth ddosbarthu allweddi
- Cynorthwyo â hunangofrestru pan ofynnir am gymorth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Safonau eich sefydliad ar gyfer gofal cwsmeriaid a pham mae’r rhain yn bwysig
- Gweithdrefnau bwcio eich sefydliad a pham mae’n bwysig dilyn y rhain yn gywir
- Gweithdrefnau cofrestru eich sefydliad a pham mae’n bwysig dilyn y rhain yn gywir, gan gynnwys hunan-gofrestru lle bo hynny ar gael
- Gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol yn gysylltiedig â llety, nwyddau a gwasanaethau sydd ar werth
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fydd cwsmeriaid yn cyrraedd a sut i ddelio â’r rhain
- Pam mae’n rhaid i’r cwsmer lenwi dogfennaeth gofrestru yn gywir
- Y gofynion penodol ar gyfer cofrestru ymwelwyr o dramor
- Gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer dyrannu ystafelloedd
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid
- Pam mae’n bwysig nodi gofynion cwsmeriaid yn gywir
- Pa wybodaeth gofrestru y mae’n rhaid ei chael er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth
- Pam dylai’r holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r bwciad fod ar gael
- Gweithdrefnau eich sefydliad os bydd cwsmeriaid am drafod prisiau adeg cyrraedd
Cwmpas/ystod
1. Cwsmeriaid
13.1 â gofynion arferol
13.2 â gofynion arbennig
13.3 sydd heb fwcio ymlaen llaw
2. Systemau bwcio
2.1 system gyfrifiadurol
2.2 system â llaw
3. Gwybodaeth i gwsmeriaid
3.1 lleoliad yr ystafell
3.2 diogelwch allweddi a gweithdrefnau diogelwch
3.3 gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael
3.4 prisiau
3.5 cynigion a hyrwyddiadau arbennig sydd ar gael
4. Gwasanaethau a chyfleusterau
4.1 cyfleusterau busnes
4.2 cyfleusterau hamdden
4.3 cyfleusterau bwyd a diod