Darparu gwasanaethau gwybodaeth twristiaeth i gwsmeriaid

URN: PPL2FOH11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gallu darparu cyngor a gwybodaeth twristiaeth i’ch cwsmeriaid. Mae ar gyfer derbynyddion, staff bwciadau, gofalwyr (concierges) a phorthorion, neu staff a benodwyd i rôl debyg. Yn aml, bydd gan gwsmeriaid sy’n ymweld â’ch safle amrywiaeth o ymholiadau ynghylch beth sydd ar gael i’w weld a’i wneud tra byddant yno. Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu’r wybodaeth honno i’ch gwesteion. Gallai hynny ymwneud ag atyniadau lleol, cyfleusterau hamdden neu siopau a marchnadoedd lleol. I wneud hyn, mae’n rhaid i chi allu nodi beth mae eich cwsmeriaid ei eisiau a dod o hyd i’r wybodaeth honno a’i darparu.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu gwasanaethau gwybodaeth twristiaeth i gwsmeriaid


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Croesawu cwsmeriaid yn gwrtais
  2. Defnyddio technegau cwestiynu agored i nodi anghenion eich cwsmeriaid
  3. Defnyddio sgiliau gwrando gweithredol wrth nodi anghenion eich cwsmeriaid
  4. Cael eglurhad gan eich cwsmer o unrhyw feysydd rydych chi’n ansicr amdanynt
  5. Cadarnhau â’ch cwsmer pa wybodaeth y mae arnynt ei hangen
  6. Gwirio bod y cwsmer yn barod i dalu am unrhyw wasanaethau gwybodaeth twristiaeth allanol lle y bo’n berthnasol
  7. Canolbwyntio ar anghenion eich cwsmeriaid gan gydnabod cwsmeriaid eraill a all fod yn aros
  8. Nodi ffynonellau sy’n darparu’r wybodaeth y mae ar eich cwsmer ei hangen
  9. Darparu gwybodaeth a chyngor perthnasol sy’n gywir, yn gyfredol ac yn gysylltiedig ag anghenion eich cwsmeriaid
  10. Rhoi esboniad clir o unrhyw gyfyngiadau gyda gwybodaeth a/neu gynnyrch a gwasanaethau
  11. Cynnig gwybodaeth a chyngor ar yr hyn sy’n ateb anghenion eich cwsmeriaid orau, yn eich barn chi, pan fydd nifer o opsiynau ar gael
  12. Cadarnhau’n gwrtais â’ch cwsmeriaid eu bod yn deall y wybodaeth a’r cyngor rydych wedi’u rhoi iddyn nhw
  13. Rhoi cadarnhad ysgrifenedig a/neu wedi’i argraffu i gwsmeriaid o’r wybodaeth roeddent ei heisiau, lle bo hynny’n briodol
  14. Cynnig dewisiadau yn lle gwasanaethau nad ydynt ar gael, pan fyddwch wedi gwirio hynny
  15. Gwirio bod y cwsmer yn hapus â’r gwasanaeth a roesoch a dod ag ymholiad y cwsmer i ben yn gwrtais

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae’n bwysig bod yn gymwynasgar ac yn gwrtais
  2. Beth yw technegau cwestiynu agored a phryd a sut i ddefnyddio technegau cwestiynu agored yn effeithiol
  3. Beth yw sgiliau gwrando gweithredol a pham mae defnyddio sgiliau gwrando gweithredol yn ddefnyddiol i’ch cwsmer
  4. Pam mae’n hanfodol cadarnhau anghenion eich cwsmeriaid
  5. Pam mae’n bwysig gwirio bod eich cwsmer yn hapus gyda’ch gwasanaeth a sut i ddelio ag unrhyw anfodlonrwydd
  6. Ble mae gwybodaeth a ffynonellau ar gael, a sut gallwch chi gael atynt a’u defnyddio
  7. Pa wybodaeth twristiaeth mae eich sefydliad yn meddu arni a ble mae’n cael ei storio
  8. Unrhyw ostyngiadau a/neu drefniadau y gallai eich sefydliad fod wedi cytuno arnynt gyda sefydliadau twristiaeth
  9. Pa wybodaeth sydd ar gael am ddim a pha wybodaeth sydd ar gael am dâl
  10. Sut i drefnu eich cwsmeriaid mewn modd sy’n sicrhau y byddwch yn delio â phob cwsmer yn effeithiol
  11. Amrywiaeth o sefydliadau allanol eraill sy’n darparu gwybodaeth twristiaeth a sut i gysylltu â nhw
  12. Gweithdrefnau eich cwmni o ran ffioedd bwcio, atebolrwydd a bilio cwsmeriaid
  13. Sut i strwythuro cyngor yn effeithiol a pha gyfyngiadau sydd i’r cyngor rydych chi’n ei ddarparu
  14. Y rhannau perthnasol o ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd a’u goblygiadau wrth roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid
  15. Pa ddulliau sydd ar gael i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig neu wybodaeth mewn print i gwsmeriaid
  16. Dulliau o ddwyn rhyngweithiadau â chwsmeriaid i ben yn gwrtais

Cwmpas/ystod

1. Ffynonellau gwybodaeth
16.1 ffynonellau electronig gan gynnwys y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol
16.2 llyfrynnau
16.3 cyfeiriaduron
16.4 amserlenni
16.5 mapiau
16.6 arweinlyfrau
16.7 sefydliadau allanol
16.8 taflenni


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cwestiynau agored
Dyma gwestiynau sy’n aml yn dechrau gyda beth, ble, pwy, pryd a sut ac sy’n ysgogi atebion sy’n rhoi’r wybodaeth honno i chi

Gwrando gweithredol
Er enghraifft, sicrhau cyswllt llygaid a’i gynnal, nodio’ch pen a gwenu

Cyngor
Addasu’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i fodloni gofynion unigol

Costau
Mae enghreifftiau’n cynnwys cyhoeddiadau y mae’n rhaid talu amdanynt; llinellau ffôn premiwm i ddarparwyr gwybodaeth; ffioedd asiantaethau bwcio; hediadau heb gomisiwn, ac ati.

Ffynonellau electronig
Enghreifftiau yw’r rhyngrwyd, y fewnrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol

Ffyrdd eraill o helpu eich cwsmer
Enghreifftiau yw gwneud galwad ffôn i geisio dod o hyd i wybodaeth fanylach neu fwy penodol, trefnu bod gwybodaeth bellach yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at eich cwsmer, cyfeirio’r cwsmer at sefydliad arall, ac ati.

Sefydliadau
Mae enghreifftiau yn Ganolfannau Gwybodaeth Twristiaeth, Canolfannau Croeso, Canolfannau Cyswllt, atyniadau i ymwelwyr, gweithredwyr teithiau, asiantaethau tocynnau. Hefyd, gallai gyfeirio at eich busnes chi, os ydych chi’n hunangyflogedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2FOH11

Galwedigaethau Perthnasol

Derbynnydd

Cod SOC

4216

Geiriau Allweddol

darparu; gwybodaeth; twristiaeth; gwasanaethau; cwsmeriaid