Storio ac adalw gwybodaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu, storio ac adalw gwybodaeth gan ddefnyddio gwahanol systemau gwybodaeth, yn unol â gofynion sefydliadol. Mae ar gyfer pobl sydd â mynediad rheolaidd at systemau gwybodaeth o fewn swyddogaethau blaen tŷ. Mae prosesu, storio ac adalw gwybodaeth yn allweddol i sicrhau bod staff yn gallu cael at y wybodaeth yn gyflym ac yn hawdd, sy’n arwain at fodloni ceisiadau cwsmeriaid am wybodaeth yn effeithiol ac yn effeithlon. Yn ei dro, gall hyn helpu cwsmeriaid i gael profiad cadarnhaol, ar y cyfan, yn eich sefydliad.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Storio ac adalw gwybodaeth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi a chasglu gwybodaeth ofynnol gan ddilyn gweithdrefnau cytunedig a deddfwriaeth berthnasol i gynnal diogelwch a chyfrinachedd
- Storio gwybodaeth ofynnol mewn lleoliadau cymeradwy yn unol â therfynau amser cytunedig
- Adolygu a diweddaru gwybodaeth i sicrhau ei bod yn gywir, yn gyfredol a’i bod yn bodloni gofynion cyfreithiol perthnasol
- Dilyn gweithdrefnau cytunedig a deddfwriaeth berthnasol ar gyfer dileu gwybodaeth
- Cadarnhau gwybodaeth i’w hadalw
- Cydymffurfio â gweithdrefnau a deddfwriaeth berthnasol ar gyfer cael mynediad i system wybodaeth
- Lleoli ac adalw’r wybodaeth ofynnol
- Dilyn y gweithdrefnau cywir pan fydd problemau gyda systemau gwybodaeth
- Darparu gwybodaeth yn y fformat cytunedig, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a chan ddilyn gweithdrefnau cytunedig a deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Diben storio ac adalw gwybodaeth ofynnol
- Y gwahanol systemau gwybodaeth a’u prif nodweddion
- Gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer diogelwch, storio a chyfrinachedd gwybodaeth
- Diben cadarnhau pa wybodaeth sydd i’w chasglu, ei storio a’i hadalw
- Y dulliau y gellir eu defnyddio i gasglu gwybodaeth ofynnol
- Y gweithdrefnau i’w dilyn i gael mynediad i systemau gwybodaeth
- Y mathau o wybodaeth i’w dileu
- Y gweithdrefnau ar gyfer nodi a dileu gwybodaeth a pham mae’n rhaid eu dilyn
- Sut i wneud yn siŵr bod gwybodaeth yn gywir
- Y problemau a all ddigwydd gyda systemau gwybodaeth ac i bwy y dylid rhoi gwybod amdanynt
- Pwrpas darparu gwybodaeth yn y fformat gofynnol ac o fewn terfynau amser cytunedig