Sefydlu gorsaf goffi arbenigol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ar gyfer gwasanaeth coffi arbenigol yn eich gweithle, gan gynnwys gosod y cyfarpar arbenigol, fel peiriant espreso a melin goffi. Mae’n delio â sut dylech chi baratoi’r stoc angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth a’r gwiriadau y dylid eu cyflawni i sicrhau safon uchel y diodydd coffi byddwch chi’n eu cynhyrchu.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i sefydlu gorsaf goffi arbenigol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Sefydlu gorsaf goffi arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod ardal y gwasanaeth yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gosod digon o stoc, eitemau gwasanaeth ac ychwanegiadau mewn ardaloedd gwasanaeth ac unedau oergell, a’u storio’n briodol yn barod ar gyfer y gwasanaeth
- Gwneud yn siŵr bod ardal y cwsmeriaid yn edrych yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio bod y felin goffi ar y gosodiad cywir a’i bod yn dosbarthu’r dogn cywir o goffi yn unol â gweithdrefn eich gweithle
- Gwirio bod y peiriant espresso yn arddangos tymheredd a phwysedd cywir y dŵr
- Profi safon yr espresso a gynhyrchir trwy wirio bod yr amser echdynnu, y llif, y blas, faint o ohono sydd a’i olwg yn bodloni gweithdrefn eich gweithle
- Rhoi gwybod i’r person cywir am unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar neu’r echdynnu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi gorsaf goffi arbenigol
- Rhannau’r peiriant espresso a sut maent yn cyd-fynd yn gywir
- Tymheredd a phwysedd cywir y dŵr sy’n ofynnol er mwyn gosod y peiriant espresso i gynhyrchu coffi espresso o safon
- Y gosodiad cywir ar gyfer y felin goffi a’r effaith y gall hyn ei chael ar y ddiod goffi ac ar y peiriant espresso
- Yr amodau storio cywir ar gyfer ffa coffi a choffi mâl
- Pam mae’n bwysig deall tueddiadau gwerthu a’r galw wrth sefydlu gorsaf goffi arbenigol
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi gorsaf goffi arbenigol
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth ddefnyddio peiriant coffi espreso
- Y prif fathau o ffa coffi a ddefnyddir a’u nodweddion
- Dulliau cynhyrchu coffi ac effaith y prosesau hyn ar flas y ddiod goffi yn y pen draw
- Amser echdynnu a llif cywir coffi espreso a’r nodweddion y byddech yn eu disgwyl o ran golwg, maint y ddiod a’i blas
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth ddefnyddio peiriant coffi espreso a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cyfarpar
1.1 peiriant espresso
1.2 melin goffi
1.3 blwch taro
1.4 tampiwr
1.5 unedau oergell
2. Stoc
2.1 ffa coffi
2.2 pecynnau coffi mâl (heb gaffein)
2.3 bagiau te
2.4 dail te
2.5 powdr / syryp siocled poeth
2.6 ffrwythau ffres
3. Eitemau gwasanaeth
3.1 llestri
3.2 cytleri
3.3 llestri gwydr
3.4 napcynnau
3.5 cwpanau / caeadau tafladwy
3.6 stensiliau
4. Ychwanegiadau
4.1 llaeth
4.2 siwgr
4.3 powdr ysgeintio
4.4 malws melys
4.5 hufen
4.6 syrypau