Paratoi a gweini diodydd poeth parod a diodydd poeth o beiriant
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi cyfarpar sylfaenol fel peiriannau dosbarthu, tegelli, yrnau, tebotau a photiau coffi. Mae’n delio â’r dulliau paratoi a sut rydych chi’n gweini diodydd poeth, fel te, coffi a siocled poeth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a gweini diodydd poeth parod a diodydd poeth o beiriant; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a gweini diodydd poeth parod a diodydd poeth o beiriant
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod ardal y gwasanaeth diodydd yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod cyfarpar y gwasanaeth (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod gennych gyflenwad digonol o eitemau gwasanaeth glân, heb ddifrod, yn barod i’w defnyddio ac wedi’u storio’n gywir
- Paratoi digon o gynhwysion diodydd yn barod ar gyfer gwasanaeth a’u storio’n briodol
- Gwneud yn siŵr bod ardal y cwsmeriaid yn edrych yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Cydnabod eich cwsmeriaid
- Rhoi cymorth i gwsmeriaid, fel bo angen
- Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y fwydlen diodydd gywir i ddewis ohoni
- Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Nodi archebion eich cwsmeriaid a’u prosesu’n brydlon ac yn effeithlon
- Cadw’r cyfarpar a’r ardal baratoi / gwasanaeth yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi’r ardal waith a’r cyfarpar ar gyfer gweini diodydd poeth
- Pam mae’n rhaid i ddiodydd ac ychwanegiadau fod yn barod i’w defnyddio ar unwaith
- Pam mae’n bwysig gwirio am ddifrod ym mhob ardal waith a chyfarpar cyn y gwasanaeth
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi a gweini diodydd poeth
- Pam mae’n rhaid i wybodaeth a roddir i gwsmeriaid fod yn gywir
- Beth yw’r gwahanol dechnegau ar gyfer paratoi gwahanol fathau o ddiodydd poeth
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Pam dylid rhoi gwybod am bob toriad, ac i bwy
- Pam dylid cadw ardaloedd cwsmeriaid a gwasanaeth yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi a gweini diodydd poeth
Cwmpas/ystod
1 Cyfarpar paratoi
1.1 peiriant gwerthu bach
1.2 wrn / tegell
1.3 hidlydd (arllwys a gweini)
1.4 potiau coffi / tebotau
2 Cyfarpar gwasanaeth
2.1 llestri
2.2 cytleri
2.3 llestri gwydr
2.4 hambyrddau
2.5 cwpanau papur
2.6 papurau hidlo
3 Cyfarpar arall
3.1 peiriant golchi llestri
3.2 oergelloedd/rhewgelloedd
4 Diodydd
4.1 coffi
4.2 te
4.3 siocled poeth
5 Cynhwysion diodydd
5.1 bagiau / podiau / capsiwlau coffi
5.2 coffi parod
5.3 ffa coffi wedi’u malu ymlaen llaw
5.4 syryp
5.5 powdr siocled
5.6 dail te
5.7 bagiau te
5.8 trwyth ffrwythau / perlysiau
6 Ychwanegiadau
6.1 siwgr
6.2 llaeth
6.3 hufen
6.4 powdr ysgeintio
6.5 malws melys / siocled mâl