Glanhau llinellau dosbarthu diodydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n glanhau ac yn cynnal a chadw sianeli’r pibellau a’r tapiau a ddefnyddir i ddosbarthu amrywiaeth o ddiodydd yn eich gweithle, er enghraifft diodydd ysgafn, gwin a chwrw.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i lanhau llinellau dosbarthu diodydd; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau llinellau dosbarthu diodydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi’r llinellau dosbarthu diodydd yn barod i’w glanhau, gan ofalu dilyn gweithdrefnau ar gyfer datgysylltu barilanau a’r cyflenwad nwy
- Defnyddio’r gweithdrefnau cywir, cemegion wedi’u mesur a chyfarpar diogelu personol i gyflawni’r broses o lanhau’r llinellau dosbarthu diodydd
- Dilyn y weithdrefn a’r amseriadau cywir i socian y llinellau a’r tapiau dosbarthu
- Dilyn y gweithdrefnau cywir i fflysio’r llinellau dosbarthu, gan eu gadael yn lân, heb ddifrod, heb gemegion ac yn gweithio’n dda
- Gwneud yn siŵr eich bod wedi sugno’r ddiod a ailgysylltwyd drwy’r llinell ddosbarthu a’ch bod wedi gwirio ansawdd y ddiod cyn ailddechrau ei dosbarthu, a chofnodi’r gwaith glanhau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Storio holl gyfarpar a chemegion glanhau llinellau dosbarthu yn y man cywir, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio bod yr ardal dosbarthu diodydd yn lân ac yn daclus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel a hylan wrth lanhau llinellau dosbarthu diodydd
- Pam mae’n bwysig glanhau’r llinellau dosbarthu diodydd
- Beth yw peryglon cam-drafod barilanau a chyflenwadau nwy
- Pam mae’n bwysig dilyn y gweithdrefnau cywir wrth drafod cemegion
- Y cyfarpar a’r technegau penodol sy’n ofynnol i lanhau’r llinellau dosbarthu diodydd yn eich gweithle
- Pa linellau ddylai gael eu rinsio’n drylwyr ar ôl eu glanhau
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth lanhau llinellau dosbarthu diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Llinellau dosbarthu diodydd
1.1 cwrw / lager
1.2 stowt
1.3 seidr
1.4 cwrw dihopys
1.5 gwin / coctels
1.6 diodydd ysgafn