Paratoi a gweini gwin
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ar gyfer gweini gwin yn eich gweithle, gan gynnwys trefnu’r cyfarpar a’r stoc angenrheidiol. Hefyd, mae’n delio â sut rydych chi’n rhyngweithio â’ch cwsmer i bennu ei ofynion ac, yn olaf, sut rydych chi’n cyflwyno ac yn gweini’r gwin.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a gweini gwin; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a gweini gwin
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o stoc o lieiniau gwasanaeth, cyfarpar a rhestri gwinoedd glân, heb ddifrod, yn barod i’w defnyddio
- Gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o gyflenwad o boteli gwin sy’n lân, heb ddifrod ac wedi’u storio ar y tymheredd priodol yn barod i’w defnyddio
- Cyfarch eich cwsmeriaid a rhoi’r rhestr gwinoedd gywir iddynt i ddewis ohoni
- Rhoi gwybodaeth gywir i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Cofnodi archeb eich cwsmeriaid yn gywir
- Cyflwyno’r botel win lân, heb ddifrod, i’r cwsmer ar y tymheredd cywir ac yn unol ag arddull gwasanaeth eich gweithle
- Agor y gwin gan ddefnyddio’r dull a’r cyfarpar priodol
- Cynnig cyfle i’r cwsmer flasu’r gwin, ac wedyn gweini’r gwin i’ch cwsmeriaid
- Ail-lenwi gwydrau cwsmeriaid, fel bo angen, mewn ffordd broffesiynol a heb darfu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd gwasanaeth, cyfarpar a stoc ar gyfer gweini gwin
- Pa gyfarpar gwasanaeth y mae ei angen ar gyfer gwahanol fathau o win
- Pa wydrau sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol fathau o win
- Ar ba dymheredd y dylid storio a chynnal gwahanol fathau o win cyn eu gweini ac ar ba dymheredd y dylid cadw gwin yn ei gyflwr gorau
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi ardaloedd gwasanaeth, cyfarpar a stoc ar gyfer gweini gwin a sut i ddelio â’r rhain
- Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig â thrwyddedu a disgrifiadau masnach wrth weini a gwerthu gwin
- Nodweddion sylfaenol y gwinoedd ar y rhestr gwinoedd yn eich gweithle, gan gynnwys mathau o rawnwin ac arddulliau
- Pa ffactorau i’w hystyried wrth roi cyngor i gwsmeriaid ar ddewis gwin; paru â bwyd, bodloni gofynion y cwsmeriaid, sicrhau’r gwerthiannau gorau i’ch gweithle
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth gyflwyno a gweini gwin
- Y dull gweini cywir ar gyfer gwahanol fathau o win
- Beth yw’r dangosyddion mewn gwin ei fod yn anaddas i’w yfed
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini gwin a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1 Cyfarpar gwasanaeth
1.1 llestri gwydr
1.2 hambyrddau
1.3 llieiniau gwasanaeth
1.4 corcsgriw / agorwr poteli
1.5 bwced iâ / stand
1.6 oerwyr
2 Mathau o win
2.1 coch
2.2 gwyn
2.3 pefriog
2.4 gwin cadarn
3 Gwybodaeth
3.1 enw a math o win
3.2 pris
3.3 nodweddion
3.4 gwlad wreiddiol
3.5 abv%
4 Gofynion y cwsmer
4.1 achlysur
4.2 paru â bwyd
4.3 pris
4.4 blas ac arddull y cwsmer
5 Arddull gweini
5.1 fesul gwydr
5.2 fesul potel
5.3 fesul caráff / decanter