Paratoi a gweini cwrw / seidr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gweini amrywiaeth o fathau o
gwrw / seidr. Mae’r safon yn delio â sut rydych chi’n paratoi cyfarpar gwasanaeth ac yn gwneud yn siŵr bod cwrw / seidr ffres ar gael, yn y cyflwr cywir i’ch cwsmeriaid. Hefyd, mae’n delio â’r dulliau arllwys a gweini ar gyfer pob math o gwrw / seidr.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a gweini cwrw / seidr; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a gweini cwrw / seidr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod yr ardal wasanaeth yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i lleoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwneud yn siŵr bod unedau oergell wedi’u hailgyflenwi yn cynnwys digon o gyflenwadau ac ychwanegiadau, a’u storio’n briodol yn barod ar gyfer gwasanaeth
- Gwneud yn siŵr bod ardal y cwsmeriaid yn edrych yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â safon eich sefydliad / brand
- Cydnabod eich cwsmeriaid a rhoi cymorth i gwsmeriaid, fel bo angen
- Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y wybodaeth gywir am y math o gwrw / seidr sydd ar gael iddynt a’u cryfder
- Rhoi gwybodaeth gywir i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Arllwys y cwrw / seidr gan ddefnyddio’r mesurau, y technegau a’r cyfarpar argymelledig a chynnig ychwanegiadau, pan fo’n briodol
- Gweini diodydd alcohol dim ond i bobl sydd â hawl i’w cael
- Cadw’r cyfarpar a’r ardal baratoi / gwasanaeth yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd a chyfarpar ar gyfer gweini cwrw / seidr
- Pam mae’n bwysig dilyn gofynion diogelwch bwyd wrth baratoi cwrw / seidr
- Pam mae’n bwysig paratoi casgenni / barilanau ymlaen llaw
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi’r ardal a’r cyfarpar ar gyfer gweini cwrw / seidr
- Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig â thrwyddedu a phwysau a mesurau
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth arllwys a gweini cwrw / seidr
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Ble gellir cael deddfwriaeth iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd a thrwyddedu, ac oddi wrth bwy
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am gynhwysion, nodweddion sylfaenol a chryfder eu diod
- Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am ychwanegiadau, cynigion arbennig a hyrwyddiadau
- Beth yw’r technegau ar gyfer arllwys a gweini amrywiaeth o gynhyrchion cwrw / seidr
- Pa symptomau sy’n awgrymu bod cwsmer wedi yfed yn ormodol neu fod cwsmer dan ddylanwad cyffuriau a beth yw eich cyfrifoldebau cyfreithiol yn gysylltiedig â hyn
- Sut i ddelio â chwsmeriaid treisgar neu anystywallt
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth arllwys a gweini cwrw / seidr a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cyfarpar
14.1 barilau / barilanau / casgenni
14.2 pympiau
14.3 gwydrau / jygiau / piseri
14.4 unedau oergell
2. Ychwanegiadau
2.1 iâ
2.2 garnais bwyd
3. Gwybodaeth
3.1 pris
3.2 cynhwysion
3.3 mesurau / cryfder cymharol
4. Mathau o gwrw / seidr
4.1 cwrw barilan
4.2 lager
4.3 cwrw dihopys casgen
4.4 seidr
4.5 stowt / cwrw du
4.6 cwrw “cream flow”
5. Arddull gweini
5.1 casgen
5.2 potel
5.3 can