Paratoi a gweini coctels (cymysgu diodydd)

URN: PPL2FBS3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Gwasanaeth Bwyd a Diod
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gweini coctels, neu gymysgu diodydd (mixology, sef celfyddyd paratoi diodydd cymysg). Mae’r safon yn delio â sut rydych chi’n paratoi cyfarpar a chynhwysion, dulliau cymysgu a dulliau cyflwyno a ddefnyddir wrth ddarparu diod gymysg ddeniadol i’ch cwsmer yn addas i’w anghenion.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a gweini coctels (cymysgu diodydd); fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a gweini coctels (cymysgu diodydd)


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwneud yn siŵr bod ardal y gwasanaeth yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Gwneud yn siŵr bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
  3. Gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi digon o gynhwysion ac ychwanegiadau yn barod ar gyfer y gwasanaeth ac wedi’u storio’n briodol
  4. Gwneud yn siŵr bod ardal y cwsmeriaid yn edrych yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  5. Cydnabod eich cwsmeriaid a rhoi cymorth i gwsmeriaid, fel bo angen
  6. Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y fwydlen goctels gywir i ddewis ohoni
  7. Rhoi gwybodaeth gywir i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
  8. Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
  9. Rhoi coctels at ei gilydd gan ddefnyddio’r mesurau, y technegau a’r cyfarpar argymelledig a’u gorffen gyda’r ychwanegiadau priodol
  10. Gweini diodydd alcohol dim ond i bobl sydd â hawl i’w cael
  11. Cadw’r cyfarpar a’r ardal baratoi/gwasanaeth yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd a chyfarpar ar gyfer gwneud coctels
  2. Pam mae’n bwysig dilyn gofynion diogelwch bwyd wrth baratoi coctels
  3. Pam mae’n bwysig paratoi cynhwysion ac ychwanegiadau ymlaen llaw
  4. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi’r ardal a’r cyfarpar ar gyfer gwneud coctels
  5. Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig â thrwyddedu a phwysau a mesurau
  6. Arferion gweithio diogel a hylan wrth gymysgu a gweini coctels
  7. Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
  8. Ble gellir cael deddfwriaeth iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd a thrwyddedu, ac oddi wrth bwy
  9. Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am gynhwysion, nodweddion sylfaenol a chryfder eu diod
  10. Pam mae’n bwysig rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid am gynigion arbennig a hyrwyddiadau
  11. Beth yw’r technegau ar gyfer gwneud amrywiaeth o goctels alcohol a heb alcohol
  12. Pam mae’n bwysig dilyn rysáit a defnyddio’r mesurau cywir wrth wneud coctels
  13. Pryd mae hawl gennych arllwys cynhwysion coctels yn rhydd
  14. Pa symptomau sy’n awgrymu bod cwsmer wedi yfed yn ormodol neu fod cwsmer dan ddylanwad cyffuriau a beth yw eich cyfrifoldebau cyfreithiol yn gysylltiedig â hyn
  15. Sut i ddelio â chwsmeriaid treisgar neu anystywallt
  16. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gymysgu a gweini coctels a sut i ddelio â’r rhain

Cwmpas/ystod

1 Cyfarpar
1.1 blendiwr
1.2 teclynnau ysgwyd / cymysgu
1.3 arllwyswyr
1.4 eitemau troi
1.5 gwasgwyr / hidlau
1.6 bwrdd a chyllell dorri
1.7 gwydrau / jygiau / piseri
1.8 sgŵp iâ
1.9 bwydlen goctels

2 Cynhwysion
2.1 ffrwythau
2.2 sudd ffrwythau / diodydd ysgafn / diodydd cymysgu
2.3 hufen / llaeth
2.4 alcohol
2.5 syryp

3 Ychwanegiadau
3.1 iâ
3.2 garnais bwyd
3.3 halen / siwgr
3.4 eitemau addurnol / eitemau troi

4 Gwybodaeth
4.1 pris
4.2 cynhwysion
4.3 mesurau / cryfder cymharol

5 Cynhwysyn sylfaen
5.1 gwirod
5.2 hufen
5.3 siampên
5.4 ffrwyth

6 Dull
6.1 siglo / cymysgu
6.2 troi
6.3 blendio
6.4 cywasgu / corddi
6.5 wedi’i adeiladu / arllwys
6.6 haenedig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2FBS3

Galwedigaethau Perthnasol

Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar

Cod SOC

9265

Geiriau Allweddol

paratoi; gweini; coctels; cymysgu diodydd; mixology