Gweini diodydd alcohol a diodydd ysgafn
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n darparu amrywiaeth o ddiodydd i’ch cwsmeriaid yn ystod gwasanaeth. Mae’n cynnwys diodydd alcohol a heb alcohol sy’n cael eu gweini trwy amryw ddull, gan gynnwys poteli optig, o’r gasgen a thrwy arllwys yn rhydd. Hefyd, mae’n delio â sut rydych chi’n rhyngweithio â chwsmeriaid i ddarparu amgylchedd proffesiynol a chroesawgar.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i weini diodydd alcohol a diodydd ysgafn; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gweini diodydd alcohol a diodydd ysgafn
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydnabod eich cwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd y bar
- Delio â chwsmeriaid yn nhrefn cyrraedd y bar, lle bo’n bosibl
- Rhoi cymorth i gwsmeriaid, fel bo angen
- Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y fwydlen ddiodydd gywir i ddewis ohoni
- Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir a’u prosesu’n brydlon ac yn effeithlon
- Darparu diodydd alcohol dim ond i bobl sydd â hawl i’w cael
- Dewis y gwydr priodol, gan wneud yn siŵr ei fod yn lân a heb ddifrod
- Arllwys y ddiod yn unol â’r ddiod rydych chi’n ei gweini a’i gweini ar y tymheredd cywir, gyda’r garnais neu’r ychwanegiad priodol
- Delio â digwyddiadau cwsmeriaid yn effeithlon a rhoi gwybod i'r person priodol, lle bo angen
- Cadw ardaloedd paratoi/gwasanaeth yn lân
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig â thrwyddedu, pwysau a mesurau a disgrifiadau masnach
- Pam mae’n rhaid i’r holl wybodaeth a roddir i gwsmeriaid fod yn gywir, yn enwedig yn gysylltiedig â chryfder diodydd, cynigion arbennig a hyrwyddiadau
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich gweithle
- Pam dylech chi ddelio â chwsmeriaid yn y drefn maen nhw’n cyrraedd, lle y bo’n bosibl
- Pam mae’n bwysig gwirio llestri gwydr am ddifrod a glendid
- Pam dylai diodydd gael eu storio a’u gweini ar y tymheredd cywir
- Y technegau a’r cyfarpar cywir ar gyfer agor diodydd
- Y technegau cywir a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle ar gyfer arllwys a gweini diodydd
- Y gwydr cywir i’w ddefnyddio ar gyfer pob diod, yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Sut i ymateb i rywun a all fod dan ddylanwad gormod o alcohol neu gyffuriau, a pham ddylid rhoi gwybod i’r person priodol am hyn
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Pam dylid rhoi gwybod am bob toriad, ac i bwy
- Pam dylid cadw ardaloedd cwsmeriaid a gwasanaeth yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Gwybodaeth i gwsmeriaid
1.1 pris
1.2 cynnwys alcohol / abv%
1.3 enw a math o ddiod
1.4 arddull a nodweddion
2. Diodydd
2.1 potel
2.2 o’r gasgen
2.3 poteli optig
2.4 wedi’u harllwys yn rhydd
2.5 mewn cartonau
2.6 mewn caniau
2.7 poeth
3. Ychwanegiadau at ddiodydd
3.1 iâ
3.2 garnaisiau bwyd
3.3 eitemau addurnol / eitemau troi
3.4 ychwanegiadau at ddiodydd poeth
4. Cwsmeriaid
4.1 ag anghenion cyffredin
4.2 ag anghenion anghyffredin
5. Arddull y gwasanaeth
5.1 wrth y bar
5.2 wrth y bwrdd
6. Cyfarpar
6.1 llestri gwydr
6.2 jygiau / piseri
6.3 llestri
6.4 cytleri
6.5 cynwysyddion diodydd poeth
6.6 hambyrddau