Trawsnewid ardal ar gyfer ciniawa
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut y gallwch drawsnewid unrhyw ofod priodol fel y gellir ei ddefnyddio at ddiben ciniawa. Gallai hyn olygu troi ystafell gynadledda yn ystod y dydd yn ystafell giniawa gyda’r nos, troi teras tu allan yn ardal ginio neu droi gofod wrth ymyl bar yn ardal giniawa glyd. Hefyd, mae’n delio â dychwelyd y gofod i’w gyflwr gwreiddiol.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i drawsnewid ardal ar gyfer ciniawa; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Drawsnewid ardal ar gyfer ciniawa
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi pa eitemau y mae angen eu symud, faint o bobl y bydd arnoch eu hangen i wneud hyn a faint o amser y bydd yn ei gymryd
- Gwneud yn siŵr bod y nifer briodol o staff ar gael gennych i baratoi’r ystafell yn y modd gofynnol, o fewn yr amser gofynnol
- Blaenoriaethu eich gwaith i wneud yn siŵr eich bod yn ei gyflawni’n effeithlon
- Symud unrhyw eitemau nad oes eu hangen a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu storio yn y modd cywir
- Trin a gwaredu gwastraff yn y modd cywir
- Gosod y cyfarpar gwasanaeth a chiniawa angenrheidiol mewn modd diogel
- Gwirio bod y cyfarpar gwasanaeth a chiniawa yn lân ac yn lle cywir i fodloni gofynion y cwsmer
- Gwneud yn siŵr bod y gofod, fel awyrgylch ciniawa, yn groesawgar ac yn ddeniadol i gwsmeriaid
- Blaenoriaethu eich gwaith i wneud yn siŵr bod yr ardal yn gallu cael ei dychwelyd i’w chyflwr gwreiddiol mor effeithlon â phosibl
- Gwneud yn siŵr bod gennych y nifer angenrheidiol o staff i glirio’r ardal a dychwelyd y cyfarpar gwasanaeth a chiniawa
- Glanhau’r holl gyfarpar cyn eu symud a’u storio yn y man priodol
- Trin a gwaredu gwastraff yn y modd cywir
- Gadael yr ardal yn y cyflwr priodol ar gyfer ei ddefnydd gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau codi a symud diogel, cymeradwy a beth yw’r technegau hyn
- Sut i gyfrifo faint o staff y mae eu hangen i symud pob eitem ac a oes gofynion storio penodol ar eu cyfer
- Pa gyfarpar y mae angen eu symud yn gyffredin
- Pa osodiadau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin gan eich gweithle ar gyfer ardaloedd ciniawa
- Beth yw strwythur gwasanaeth eich gweithle a’ch lle chi yn y strwythur hwn
- Pam dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau gyda chyfarpar, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth osod ardal giniawa a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth lanhau arwynebau a chyfarpar gwahanol mewn ardaloedd ciniawa
- Pam mae’n bwysig archwilio’r ardal ar ôl cwblhau’r gwaith
Cwmpas/ystod
1. Cyfarpar ciniawa
1.1 byrddau
1.2 cadeiriau
1.3 arwynebau gwasanaeth
2. Eitemau bwrdd
2.1 cytleri
2.2 llestri
2.3 gorchuddion bwrdd a napcynnau
2.4 halen a phupur/sawsiau
2.5 addurniadau bwrdd a bwydlenni
3. Cyfarpar gwasanaeth
3.1 cytleri gwasanaeth
3.2 cyfarpar cynhesu
3.3 dysglau / platiau arian / powlenni