Darparu gwasanaeth bwffe
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ardal arddangos bwyd bwffe. Mae’n delio â pharatoi eitemau fel llestri, cytleri, napcynnau a chyfarpar arddangos. Mae gweini’r bwyd yn dilyn, sy’n cynnwys eich rhyngweithio â chwsmeriaid a sut rydych chi’n ychwanegu at eu profiad ciniawa, gweini dognau a gwybodaeth am y cynnyrch. Yn olaf, cwblheir y safon trwy gynnal a chadw’r ardal arddangos bwyd i gynnal safonau diogelwch bwyd ac arddangosfa ddeniadol i’ch cwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i ddarparu gwasanaeth bwffe; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu gwasanaeth bwffe
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Glanhau ardal arddangos y bwffe gan sicrhau ei bod heb ddifrod ac wedi’i gosod mewn ffordd sy’n bodloni gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle, yn ogystal â rhoi’r golwg gorau i gwsmeriaid ar y bwyd sydd ar gael
- Gwirio bod unedau cynhesu / oergell ymlaen mewn pryd, yn barod ar gyfer y gwasanaeth
- Gwneud yn siŵr bod eitemau bwrdd yn lân, heb ddifrod ac o fewn cyrraedd hawdd i’ch cwsmeriaid
- Glanhau cyfarpar gweini, gan sicrhau eu bod heb ddifrod ac wedi’u gosod yn barod i’w defnyddio
- Arddangos bwydydd mewn ffordd ddeniadol, yn unol â gofynion diogelwch bwyd
- Cydnabod eich cwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd y bwffe a’u cynorthwyo, fel bo angen
- Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y dewis cywir o seigiau sydd ar gael
- Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau lle y bo’n briodol a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir, a’u gweini’n brydlon ac yn effeithlon gan ofalu rhannu bwyd yn ddognau a’i gyflwyno yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Ail-lenwi eitemau bwyd yn unol â gweithdrefnau eich gweithle, gan ddilyn gofynion diogelwch bwyd perthnasol
- Cadw ardal y bwffe yn rhydd rhag gweddillion bwyd ac eitemau diangen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi arddangosfa bwffe
- Pam dylai cyfarpar gwasanaeth gael eu troi ymlaen cyn eu defnyddio
- Pam dylid gwirio gwresogi, aerdymheru, goleuo ac awyru cyn gwasanaeth
- Pam ddylid gwirio eitemau bwrdd am ddifrod a glendid cyn gwasanaeth
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi arddangosfa bwffe a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth weini cwsmeriaid mewn ardal bwffe
- Pam dylai’r wybodaeth a roddir i gwsmeriaid fod yn gywir
- Pam dylai dognau gael eu rheoli wrth weini bwyd i gwsmeriaid
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini bwyd i gwsmeriaid a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth gynnal ardal arddangos bwffe
- Pam mae’n bwysig cynnal bwyd ar y tymheredd cywir a sut y gallwch gyflawni hyn
- Pam dylid ail-lenwi eitemau bwyd a’u harddangos yn gywir trwy gydol y gwasanaeth
- Pam dylid cadw ardaloedd bwffe yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
Cwmpas/ystod
1. Arddull gweini
1.1 wedi’i weini
1.2 gweini’ch hun
2. Eitemau bwrdd
2.1 llestri
2.2 cytleri
2.3 napcynnau
3. Cyfarpar gwasanaeth
3.1 dysglau / platiau arian / platiau
3.2 cytleri gwasanaeth
3.3 clytiau / llieiniau gweini
4. Eitemau bwyd
4.1 poeth
4.2 oer
4.3 cyfwydydd