Gweini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa ffurfiol)
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu profiad gwasanaeth ciniawa ffurfiol i gwsmeriaid. Mae’n delio â chyfarch cwsmeriaid, eu rhoi i eistedd a’u cynorthwyo, darparu gwybodaeth i gwsmeriaid i ychwanegu at eu hymweliad, gweini bwyd wrth y bwrdd a chynnal ardal giniawa groesawgar i gwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i weini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa ffurfiol); fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gweini bwyd wrth y bwrdd (ciniawa ffurfiol)
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydnabod eich cwsmeriaid pan fyddant yn cyrraedd, gwirio unrhyw gofnodion bwcio a helpu gyda’u gofynion, yn unol â gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Rhoi cymorth i gwsmeriaid fel bo’r angen
- Gwneud yn siŵr bod gan eich cwsmeriaid y dewis cywir o fwydlen(ni) sydd ar gael
- Rhoi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid sy’n ychwanegu at eu profiad, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau eich cwmni
- Cynorthwyo’ch cwsmeriaid i wneud dewisiadau, lle bo’n briodol, a chymryd cyfleoedd i wneud y mwyaf o’r archeb gan ddefnyddio technegau gwerthu
- Nodi archebion eich cwsmeriaid yn gywir a’u prosesu’n brydlon ac yn effeithlon
- Darparu’r eitemau bwrdd cywir, glân a heb ddifrod i’ch cwsmeriaid, ar yr adegau priodol
- Gweini eich cwsmeriaid gan ddefnyddio cyfarpar gweini glân, heb ddifrod a phriodol
- Gweini eich cwsmeriaid gyda’r eitemau bwyd o’r safon gywir, ar y tymheredd cywir, ac yn unol ag arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Cyflawni eich gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar gwsmeriaid, gan fod ar gael i gynorthwyo’ch cwsmeriaid lle bo’r angen
- Clirio cyrsiau wedi’u gorffen o’r bwrdd ar yr adeg briodol, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Clirio eitemau bwrdd budr, wedi’u defnyddio a heb eu defnyddio o ardal y cwsmeriaid ar yr adegau priodol, yn unol ag arddull a gweithdrefnau gwasanaeth eich gweithle
- Cadw ardal y cwsmeriaid yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Ailgyflenwi ac ail-lenwi eitemau bwrdd pan fydd angen yn ystod y gwasanaeth
- Cadw’r ardal gwasanaeth cwsmeriaid yn lân ac yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid
- Pam dylid gwirio bwydlenni ac eitemau hyrwyddo cyn y gwasanaeth
- Pam dylai gwybodaeth am y fwydlen, beth sydd ar gael, cyfansoddiad seigiau, cynhwysion a dulliau coginio a roddir i’r cwsmer fod yn gywir
- Y mathau o gymorth y gall fod ar gwsmeriaid eu hangen a sut i ddelio â’r rhain
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gyfarch cwsmeriaid a phrosesu eu harchebion a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth weini cwsmeriaid a chynnal a chadw’r ardal giniawa
- Pa gyfarpar gwasanaeth sy’n briodol i wahanol eitemau’r fwydlen a dulliau gweini bwyd
- Pa halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd sy’n briodol i bob eitem ar y fwydlen
- Pam mae’n rhaid cynnal stoc gyson o eitemau gwasanaeth a bwrdd
- Pam dylid cyflwyno bwyd yn unol â manylebau’r fwydlen
- Pam dylid rhoi gwybod am bob digwyddiad cwsmeriaid, ac i bwy
- Pam mae’n rhaid cadw ardaloedd ciniawa a gwasanaeth cwsmeriaid yn rhydd rhag sbwriel a gweddillion bwyd
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth weini bwyd wrth y bwrdd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cwsmeriaid
1.1 â gofynion arbennig
1.2 heb ofynion arbennig
2. Gofynion cwsmeriaid
2.1 faint o bobl y mae’n rhaid gosod ar eu cyfer
2.2 gofynion arbennig o ran rhoi pobl i eistedd
2.3 mannau eistedd enwebedig
2.4 gofynion dietegol
3. Dull gweithredu’r gwasanaeth
3.1 bwyty
3.2 digwyddiad ffurfiol
4. Gwybodaeth
4.1 y seigiau sydd ar gael
4.2 cyfansoddiad seigiau, cynhwysion a’r dull coginio
4.3 prisiau
4.4 cynigion arbennig a hyrwyddiadau
5. Eitemau bwrdd
5.1 llestri
5.2 cytleri
5.3 llestri gwydr
5.4 napcynnau
5.5 halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd
6. Cyfarpar gwasanaeth
6.1 cytleri
6.2 dysglau, platiau arian
6.3 clytiau, llieiniau, menig gweini
6.4 hambyrddau, troliau
7. Dull gweini
7.1 ar blât
7.2 gweini