Paratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwrdd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ardaloedd ciniawa cwsmeriaid ar gyfer gwasanaeth bwrdd. Mae’n delio â chreu amgylchedd croesawgar i’ch cwsmeriaid, gosod y byrddau, gwneud yn siŵr bod holl gyfarpar ac eitemau gofynnol y gwasanaeth ar gael a daw i ben gyda chlirio’r ardal giniawa yn effeithlon.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwrdd; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a chlirio ardaloedd ar gyfer gwasanaeth bwrdd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod ardal y gwasanaeth bwyd yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod cyfarpar y gwasanaeth (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod gennych gyflenwad digonol o eitemau gwasanaeth glân, heb ddifrod, yn barod i’w defnyddio ac wedi’u storio’n gywir
- Paratoi halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd yn barod ar gyfer y gwasanaeth a’u storio’n briodol
- Gwneud yn siŵr bod eitemau cwsmeriaid a dodrefn ciniawa, gorchuddion byrddau ac eitemau’r bwrdd yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio
- Trefnu dodrefn yr ardal giniawa a gosod y byrddau yn unol ag arddull ofynnol y gwasanaeth a nifer y bwytawyr
- Gwneud yn siŵr bod bwydlenni ac eitemau hyrwyddo ar gael a’u bod yn lân ac yn gywir
- Gwirio bod halen a phupur/sawsiau a’r cyfwydydd priodol wedi’u llenwi a’u bod yn lân ac yn barod i gwsmeriaid eu defnyddio
- Gwneud yn siŵr bod ardal y cwsmeriaid yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Casglu eitemau gwasanaeth, eitemau bwyd, halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd ynghyd i’w glanhau neu storio eitemau ailddefnyddiadwy yn unol â gweithdrefnau eich gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
- Gwaredu sbwriel a gwastraff bwyd yn briodol
- Gwirio bod holl gyfarpar y gwasanaeth yn lân, wedi’u diffodd a’u storio’n gywir pan fyddwch wedi gorffen â nhw
- Cadw ardal y gwasanaeth yn lân ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
- Cadw ardaloedd cwsmeriaid a’r dodrefn yn lân, yn daclus ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd a chyfarpar gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth bwrdd
- Safonau arddull gwasanaeth eich gweithle a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli stoc
- Pam mae’n bwysig gwirio dyddiadau dirwyn i ben, a sut i wneud hynny
- Pam mae’n rhaid cynnal stoc gyson o eitemau a chyfarpar gwasanaeth bwyd
- Pam mae’n rhaid troi cyfarpar gwasanaeth ymlaen cyn y gwasanaeth
- Ble gellir cael gwybodaeth iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd, ac oddi wrth bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n paratoi ardaloedd a chyfarpar gwasanaeth a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd cwsmeriaid a chiniawa ar gyfer gwasanaeth bwrdd
- Pam mae’n hanfodol gwirio gorchuddion bwrdd, napcynnau ac eitemau bwrdd cyn y gwasanaeth
- Pam mae’n rhaid gwirio bwydlenni a gwybodaeth hyrwyddo cyn y gwasanaeth
- Pam dylid gwirio’r gwresogi, yr aerdymheru, yr awyru a’r goleuo cyn y gwasanaeth
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n gyfrifol am ardaloedd cwsmeriaid a chiniawa ar gyfer gwasanaeth bwrdd a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth glirio ardaloedd cwsmeriaid, ciniawa a gwasanaeth ar ôl gwasanaeth bwrdd
- Pam mae’n rhaid gadael holl ardaloedd cwsmeriaid, ciniawa a gwasanaeth yn lân ar ôl y gwasanaeth
- Pam dylid diffodd cyfarpar trydanol penodol ar ôl y gwasanaeth
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Sut i waredu gwydrau a llestri sydd wedi torri yn gywir
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd pan fyddwch chi’n clirio ardaloedd ar ôl gwasanaeth bwrdd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1 Dull gweithredu’r gwasanaeth
1.1 bwrdd bwyty
1.2 digwyddiad
2 Cyfarpar gwasanaeth
2.1 cytleri gwasanaeth
2.2 dysglau / platiau arian gweini
2.3 unedau oergell
2.4 cyfarpar cynhesu
2.5 platiau poeth
2.6 seldfyrddau / gorsafoedd gwasanaeth
2.7 hambyrddau / troliau
2.8 cynwysyddion gweini diodydd poeth / oer
3 Halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd
3.1 sesnin / blasau sych
3.2 sawsiau / dresinau
3.3 eitemau bara wedi’u paratoi
4 Eitemau bwrdd
4.1 llestri
4.2 cytleri
4.3 llestri gwydr
4.4 bwydlenni ac eitemau hyrwyddo
4.5 addurniadau’r bwrdd
4.6 gorchuddion bwrdd a napcynnau
4.7 halen a phupur/sawsiau a chyfwydydd
5 Trefn cyflwyno’r bwrdd
5.1 bwydlen à la carte
5.2 bwydlen table d’hôte
5.3 digwyddiad
6 Ardaloedd gwasanaeth bwyd
6.1 ardaloedd ciniawa cwsmeriaid
6.2 seldfyrddau / gorsaf wasanaeth / troliau
6.3 ardaloedd paratoi’r gwasanaeth