Derbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ar gyfer danfoniadau diodydd ac yn eu gwirio, gan gwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol a storio’r stoc yn ddiogel. Hefyd, mae’n delio â sut rydych chi’n monitro ac yn rheoli amodau storio a lefelau stoc.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i dderbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Dderbyn, storio a dosbarthu stoc diodydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi ar gyfer y danfoniad a sicrhau bod yr ardaloedd derbyn a storio yn lân, yn glir, ac wedi’u diogelu rhag mynediad anawdurdodedig iddynt
- Gwirio bod y dogfennau danfon yn cytuno â’r stoc rydych chi’n ei derbyn a rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw anghysondebau
- Gwirio nad oes difrod i’r stoc, bod ei hansawdd yn gywir a’i bod o fewn ei dyddiad
- Cwblhau a chadw unrhyw gofnodion danfon yn gywir ac yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Defnyddio gweithdrefnau diogel i gludo’r stoc i’r ardal storio gan ofalu peidio â’i difrodi ar y ffordd
- Cynnal amodau’r ardal storio a defnyddio gweithdrefnau cylchdroi stoc i sicrhau bod ansawdd y stoc yn cael ei gadw
- Cofnodi manylion y stoc sy’n cael ei derbyn, ei storio a’i dosbarthu yn unol â safon eich gweithle
- Dosbarthu stoc yn unol â gofynion eich gweithle a rhoi gwybod i'r person priodol os bydd lefelau stoc yn isel
- Cadw’r holl ardaloedd storio yn lân, yn daclus, yn rhydd rhag sbwriel ac yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth dderbyn danfoniadau diodydd
- Ble gellir cael gwybodaeth iechyd a diogelwch, ac oddi wrth bwy
- Pam dylai ardaloedd derbyn a storio gael eu diogelu rhag mynediad anawdurdodedig iddynt
- Pam dylid rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau neu ddifrod, ac i bwy
- Pa gofnodion ddylai gael eu cadw at ddibenion archwilio
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth dderbyn stoc diodydd a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth storio a dosbarthu stoc diodydd
- Pam dylid dilyn gweithdrefnau storio a chylchdroi stoc
- Pam mae’n rhaid cynnal isafswm lefel stoc a gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw amrywiad yn hyn
- Pam dylid dilyn y gweithdrefnau cywir a chynhyrchu’r ddogfennaeth gywir cyn y gall stoc gael ei dosbarthu
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth storio a dosbarthu stoc diodydd a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Danfoniadau
1.1 diodydd mewn cawell
1.2 diodydd mewn bocsys
1.3 barilanau
1.4 nwy
1.5 cyfarpar bar
1.6 gwydrau
2. Amodau storio
2.1 goleuo
2.2 awyru
2.3 tymheredd
2.4 glendid
3. Diodydd
3.1 poteli mewn cawell
3.2 poteli mewn bocsys
3.3 poteli unigol
3.4 barilanau
3.5 casgenni
3.6 caniau
3.7 cartonau