Glanhau a chau gorsaf goffi arbenigol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n glanhau cyfarpar arbenigol ac yn cau’r orsaf ar ôl gwasanaeth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i lanhau a chau gorsaf goffi arbenigol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau a chau gorsaf goffi arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Blaenoriaethu gwaith a’i gyflawni’n effeithlon
- Glanhau’r holl gyfarpar arbenigol yn unol â gofynion y gwneuthurwr a gofynion eich gweithle
- Gwneud yn siŵr bod yr holl eitemau gwasanaeth yn cael eu glanhau a’u storio’n gywir yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
- Gwirio bod cyfarpar arbenigol wedi’i ddiffodd a’ch bod wedi tynnu’r plwg, lle bo angen
- Gwaredu gwaddodion coffi a nwyddau te wedi’u defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio a chofnodi bod cyfarpar storio bwyd yn bodloni gofynion eich gweithle a gofynion cyfreithiol perthnasol a bod bwyd yn cael ei storio’n gywir
- Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblemau â’r cyfarpar
- Cwblhau gwaith a dogfennaeth yn unol â gofynion cyfreithiol, gweithdrefnau’r gweithle a deddfwriaeth berthnasol yn gysylltiedig ag arferion gweithio diogel a hylan wrth gau’r orsaf ar ôl gwasanaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth gau’r orsaf ar ôl gwasanaeth
- Pam dylai holl eitemau a chyfarpar y gwasanaeth gael eu glanhau a’u storio’n gywir ar ôl eu defnyddio
- Pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau’r gwneuthurwr a’r gweithle ar gyfer diffodd cyfarpar, tynnu’r plwg a glanhau cyfarpar ar ôl ei ddefnyddio
- Y gweithdrefnau storio ar gyfer pob stoc bwyd
- Y dull gwaredu cywir ar gyfer gwaddodion coffi a chynhyrchion te
- Pam dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gau’r orsaf goffi arbenigol ar ôl gwasanaeth a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cyfarpar
1.1 peiriant espresso
1.2 melin goffi
1.3 blwch taro
1.4 tampiwr
1.5 unedau oergell
2. Stoc
2.1 ffa coffi
2.2 pecynnau coffi mâl (heb gaffein)
2.3 bagiau te
2.4 dail te
2.5 powdr / syryp siocled poeth
2.6 ffrwythau ffres
3. Eitemau gwasanaeth
3.1 llestri
3.2 cytleri
3.3 llestri gwydr
3.4 napcynnau
3.5 cwpanau / caeadau tafladwy
3.6 stensiliau
4. Ychwanegiadau
4.1 llaeth
4.2 siwgr
4.3 powdr ysgeintio
4.4 malws melys
4.5 hufen
4.6 syrypau