Paratoi a chlirio ardal y bar
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi ardal y bar yn barod ar gyfer gwasanaeth. Mae’n delio â chreu awyrgylch croesawgar i’ch cwsmeriaid, gan wneud yn siŵr bod yr holl eitemau a chyfarpar gwasanaeth angenrheidiol ar gael, ac mae’n gorffen gyda chlirio ardal y bar yn effeithlon.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a chlirio ardal y bar; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd lletygarwch
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a chlirio ardal y bar
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod yr ardal gwasanaeth cwsmeriaid a’r bar yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwirio bod y cyfarpar gwasanaeth (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Paratoi cyflenwad digonol o gyfarpar gwasanaeth sy’n lân, heb ddifrod, yn barod i’w defnyddio ac wedi’u storio’n briodol
- Paratoi cyflenwad digonol o stoc diodydd yn barod ar gyfer y gwasanaeth a’u storio’n briodol ac ar y tymheredd cywir
- Gwneud yn siŵr bod bwydlenni’r bar ac eitemau hyrwyddo ar gael a’u bod yn lân ac yn gywir
- Gwirio bod ardal y cwsmeriaid yn ddeniadol ac yn groesawgar i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwaredu sbwriel a gwastraff yn briodol, gan gadw pob ardal yn lân ac yn daclus
- Gwneud yn siŵr bod yr ardal gwasanaeth cwsmeriaid a’r bar yn lân, yn groesawgar ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth nesaf
- Casglu eitemau gwasanaeth yn barod i’w glanhau, gwirio bod holl gyfarpar y gwasanaeth yn lân ac wedi’u difodd a’u storio’n gywir, a storio eitemau garnais bwyd ailddefnydadwy yn unol â gweithdrefnau eich gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd wrth glirio’r ardal gwasanaeth cwsmeriaid a’r bar
- Gwneud yn siŵr bod cyfarpar golchi gwydrau yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w ddefnyddio
- Gosod gwydrau yn y peiriant golchi yn ddiogel a glanhau’r gwydrau ar y tymheredd argymelledig
- Gwirio bod y llestri gwydr gorffenedig yn lân, heb ddifrod ac yn sych cyn eu storio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Gwaredu llestri gwydr sydd wedi torri neu eu difrodi gan ddilyn y gweithdrefnau argymelledig
- Gadael y cyfarpar golchi gwydrau yn lân ac yn barod i’w ddefnyddio eto
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi a chlirio ardaloedd gwasanaeth cwsmeriaid a’r bar
- Pam mae’n hanfodol gwirio dyddiadau dirwyn i ben ar eitemau stoc
- Pam mae’n rhai cynnal stoc gyson o ddiodydd ac ychwanegiadau
- Pam mae’n rhaid defnyddio system cylchdroi stoc
- Pam mae’n rhaid diogelu ardaloedd gwasanaeth rhag mynediad anawdurdodedig bob amser
- Pam mae’n rhaid i arbenigwyr gynnal a chadw cyfarpar trydanol yn gywir
- Pam dylid rhoi gwybod am gyfarpar sydd wedi’i ddifrodi a thoriadau, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi a chlirio ardaloedd cwsmeriaid a’r bar a sut i ddelio â’r rhain
- Pam dylai ardaloedd gwasanaeth cwsmeriaid a’r bar gael eu gadael yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel ar ôl gwasanaeth
- Pam mae’n rhaid trin a gwaredu gwastraff yn gywir
- Pam mae’n rhaid dilyn gweithdrefnau storio cywir ar gyfer stoc bwyd a diod
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth lanhau a storio llestri gwydr
- Beth yw’r weithdrefn gywir ar gyfer gwaredu gwydr sydd wedi’i ddifrodi neu ei dorri
- Sut i gynnal a chadw cyfarpar golchi gwydrau
- Sut i storio llestri gwydr yn ddiogel
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth lanhau a storio llestri gwydr
Cwmpas/ystod
1 Stoc ar gyfer gwasanaeth diodydd
1.1 potel
1.2 o’r gasgen
1.3 poteli optig
1.4 stoc sy’n cael ei arllwys yn rhydd
1.5 mewn cartonau
1.6 mewn caniau
1.7 diodydd poeth
2 Cyfarpar gwasanaeth
2.1 agorwyr poteli / corcsgriwiau
2.2 poteli optig / mesuryddion / arllwyswyr
2.3 llestri gwydr
2.4 hambyrddau / matiau dal diferion
2.5 bwced a gefeiliau iâ
2.6 bwrdd / cyllell dorri
2.7 matiau diodydd
2.8 eitemau addurnol / eitemau troi
3 Ychwanegiadau
3.1 iâ
3.2 garnaisiau bwyd
3.3 ychwanegiadau at ddiodydd poeth
4 Cyfarpar trydanol
4.1 unedau oergell
4.2 peiriant iâ
4.3 peiriant golchi gwydrau
4.4 cyfarpar diodydd poeth
5 Ardal wasanaeth
5.1 cownteri a silffoedd
5.2 llawr
5.3 biniau gwastraff / cynhwysydd poteli
6 Llestri gwydr
6.1 gwydrau
6.2 jygiau / piseri