Cyflwyno eitemau bwydlen yn unol â safonau brand / sefydliadol

URN: PPL1PRD6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cyflwyno seigiau yn unol
â’ch safonau brand / sefydliadol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi, yn coginio / adfywio, yn gorffen ac yn cyflwyno eitemau’r fwydlen yn briodol, mewn ffordd sy’n adlewyrchu marchnata ac arddull hyrwyddo eich gweithle yn gyson.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gyflwyno eitemau bwydlen yn unol â safonau brand / sefydliadol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyflwyno eitemau bwydlen yn unol â safonau brand / sefydliadol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod yr ardal baratoi a’r cyfarpar yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’ch safon brand / sefydliadol ar gyfer pob eitem ar y fwydlen a chasglu’r cynhwysion gofynnol ynghyd
  3. Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
  4. Paratoi a choginio / adfywio eitemau’r fwydlen i fodloni gofynion y saig
  5. Sicrhau bod lliw, ansawdd, tewychedd a blas y cynnyrch gorffenedig yn gywir
  6. Cyflwyno a gorffen y saig i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle o ran maint ac arddull y dogn
  7. Casglu’r llestri neu’r deunydd pecynnu gofynnol a chyflwyno eitemau’r fwydlen i’w gweini ynghyd â’r cyfwydydd penodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen eitemau’r fwydlen yn unol â safonau brand / sefydliadol
  2. Beth yw eich safonau brand / sefydliadol a ble i ddod o hyd iddynt
  3. Pam mae’n bwysig dilyn safonau brand / sefydliadol wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen eitemau’r fwydlen
  4. Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
  6. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
  7. Sut caiff safonau brand / sefydliadol eu defnyddio i sicrhau rheolaeth ar ddognau a pham mae hyn yn bwysig
  8. Sut i gyflwyno eitemau’r fwydlen mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
  9. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen eitemau’r fwydlen yn unol â safonau brand / sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PRD6

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

Eitemau bwydlen, safonau cwmni, cyflwyno