Paratoi prydau i’w dosbarthu

URN: PPL1PRD4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi prydau i’w dosbarthu. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi ac yn rhannu’r saig orffenedig yn ddognau yn ddiogel, cyflwyno, diogelu a labelu’n briodol, a chludo’r bwyd yn ddiogel i’r cyrchfan a ddymunir.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi prydau i’w dosbarthu; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi prydau i’w dosbarthu


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod cyfarpar y gwasanaeth bwyd yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio ar y tymheredd cywir
  2. Gwirio faint o fwyd sydd ei angen ac amrywiaeth y bwyd sydd ei angen yn erbyn y wybodaeth a roddwyd ar yr archeb
  3. Rhannu bwyd yn ddognau gan ddefnyddio dulliau cymeradwy i fodloni gofynion yr archeb a bodloni gofynion maeth unigolion
  4. Gorchuddio bwyd gan ddefnyddio deunyddiau priodol, mewn ffordd sy’n cynnal ansawdd a diogelwch y bwyd
  5. Labelu eitemau bwyd yn unol â gweithdrefnau eich gweithle, gan amlygu eitemau a neilltuwyd i gleifion â gofynion alergedd / dietegol arbennig
  6. Llwytho’r troliau a’r cynwysyddion bwyd mewn ffordd sy’n sicrhau bod ansawdd a diogelwch y bwyd yn cael eu gwarchod
  7. Cludo’r bwyd mewn ffordd sy’n sicrhau bod safonau cyflwyno’r bwyd wedi’u bodloni yn unol â gofynion eich cwsmer, gofynion cyfreithiol a gofynion y gweithle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi prydau, eu rhannu’n ddognau a’u dosbarthu
  2. Sut i wirio bod y prydau’n bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu maint a’u hansawdd yn gywir
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r prydau, ac i bwy
  4. Sut i gyflwyno prydau mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
  5. Y systemau cywir ar gyfer labelu, storio, cludo a dosbarthu prydau yn ddiogel a pham mae’r rhain yn bwysig
  6. Gweithdrefnau eich gweithle ar gyfer nodi anghenion ward ac anghenion cleifion
  7. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi prydau i’w dosbarthu a sut i ddelio â nhw

Cwmpas/ystod

1. Prydau
1.1  Bwyd poeth
1.2  Bwyd oer

2.  Gofynion y cwsmer
2.1  â gofynion arbennig
2.2  â gofynion arferol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PRD4

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

paratoi, prydau, dosbarthu