Paratoi brechdanau poeth ac oer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n paratoi amrywiaeth o frechdanau poeth ac oer, gan gynnwys:
- brechdanau
- rholiau
- byrgyrs
- wraps / fajitas
- paninis
Mae’n delio â pharatoi’r llenwadau a’r cynhyrchion bara, gan ddangos arferion gweithio cyfredol diogel a hylan.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi brechdanau poeth ac oer; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
- Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
- Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
- Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
- Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
- Baratoi brechdanau poeth ac oer
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Dewis y cyfarpar cywir i’r math o frechdan, yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Paratoi’r brechdanau yn gywir ac yn effeithlon yn unol â gweithdrefnau eich gweithle a safonau diogelwch bwyd
- Storio unrhyw frechdanau a llenwadau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
- Cadw’r ardal baratoi a’r cyfarpar yn lân ac yn daclus, heb sbwriel na gweddillion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi ardaloedd a chyfarpar i baratoi brechdanau poeth ac oer
- Sut i wirio bod cynhyrchion bara a llenwadau yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio
- Sut i gyflwyno brechdanau mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer brechdanau a llenwadau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi brechdanau poeth ac oer a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara
- bara wedi’i sleisio
- bara heb ei sleisio
- wraps
- rholiau / byns / paninis
2. Llenwadau
- brasterau / taeniadau
- cig a dofednod
- pysgod
- cynnyrch llaeth
- salad / llysiau / ffrwythau
- sawsiau / dresinau / relish
3. Dulliau paratoi
- sleisio
- paratoi llenwadau
- garneisio
- cynhesu / tostio
4. Cyfarpar
- byrddau torri
- cyllyll
- unedau oergell
- tostiwr / peiriant paninis
- stof / popty