Paratoi a choginio pasta
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a choginio pasta.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r mathau canlynol o basta:
• sych
• ffres, wedi’i brynu
Byddwch yn defnyddio’r dulliau paratoi a choginio canlynol:
• storio
• berwi
• blansio
• hidlo
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio pasta; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio pasta
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio’r pasta i sicrhau ei fod yn addas i’w baratoi a’i goginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio pasta
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio pasta
- Paratoi’r pasta i fodloni gofynion
- Coginio’r pasta yn ôl y gofyn
- Gorffen y pasta yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod y pasta ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio pasta wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol enwau a siapiau pasta a all gael eu defnyddio
- Sut i wirio pasta i sicrhau ei fod yn addas i’w baratoi a’i goginio
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pasta neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Y tymereddau a’r amserau coginio cywir ar gyfer gwahanol fathau o basta
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi
- Sut i baratoi pasta gan ddefnyddio’r dulliau paratoi cywir
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau coginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn gywir
- Sut i adnabod pan fydd gan basta wedi’i goginio’r ansawdd cywir
- Pam mae’n bwysig peidio gor-goginio pasta
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini pasta
- Y gofynion storio cywir ar gyfer pasta na fydd yn cael ei fwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Pasta
13.1 sych
13.2 ffres, wedi’i brynu
2. Dulliau paratoi
2.1 blansio
2.2 hidlo
3. Dulliau coginio
3.1 berwi