Paratoi a choginio reis
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau reis syml, er enghraifft:
• reis wedi’i ferwi
• reis jasmin wedi’i stemio
• reis wedi’i frwysio
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r mathau canlynol o reis:
• hir
• byr
Byddwch yn defnyddio’r dulliau paratoi a choginio canlynol:
• golchi
• stemio
• berwi
• hidlo
• brwysio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio reis; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio reis
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y reis yn addas i’w goginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio reis
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio reis
- Paratoi’r reis i fodloni gofynion
- Coginio’r reis yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod y reis i’r tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw reis na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd, os yw eich sefydliad yn caniatáu hynny
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio reis sydd heb ei goginio
- Sut i wirio’r reis i sicrhau ei fod yn addas i’w baratoi a’i goginio
- Beth ddylech chi ei wneud os bydd problemau gyda’r reis
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi a choginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i ddefnyddio’r dulliau paratoi a choginio
- Sut i ddweud p’un a yw reis wedi’i goginio’n gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini reis wedi’i goginio
- Y gofynion storio cywir ar gyfer reis na fydd yn cael ei fwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1.Reis
1.1 hir
1.2 byr
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 golchi
2.2 stemio
2.3 berwi
2.4 brwysio
2.5 hidlo