Paratoi a gorffen seigiau salad a ffrwythau syml

URN: PPL1PC5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chyflwyno seigiau salad a ffrwythau, er enghraifft:
• saladau ffrwythau
• saladau llysiau
• saladau ffacbys a ffa

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a gorffen seigiau salad a ffrwythau syml; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a gorffen seigiau salad a ffrwythau syml


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn addas i’w paratoi
  2. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi a gorffen salad a ffrwythau
  3. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a gorffen salad a ffrwythau
  4. Paratoi’r cynhwysion yn gywir ar gyfer y saig
  5. Cyflwyno’r saig i fodloni gofynion
  6. Storio unrhyw eitemau wedi’u paratoi na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i storio salad a ffrwythau cyn eu paratoi
  2. Beth ddylech chi chwilio amdano i sicrhau bod pob math o salad, ffrwyth a chynhwysion eraill yn addas i’w defnyddio
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r salad, y ffrwythau neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
  4. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi
  5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
  6. Sut dylech chi gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
  7. Y gofynion storio cywir ar gyfer seigiau salad a ffrwythau syml na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith

Cwmpas/ystod

1. Cynhwysion
1.1 ffrwythau wedi’u rhewi
1.2 ffrwythau ffres
1.3 salad ffres
1.4 ffrwythau wedi’u paratoi
1.5 salad wedi’i baratoi

2. Paratoi trwy
2.1 blicio
2.2 tocio
2.3 golchi
2.4 mwydo
2.5 torri
2.6 cymysgu
2.7 sesno
2.8 rhannu’n ddognau
2.9 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1PC5

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

paratoi, gorffen, salad, ffrwythau