Coginio llysiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio llysiau ar gyfer prydau syml, er enghraifft:
• sglodion (ffres ac wedi’u rhewi)
• llysiau wedi’u berwi
• winwns/nionod wedi’u ffrio
• tatws stwnsh
• moron mewn menyn
• corbwmpenni / courgettes wedi’u stemio
• llysiau môr y canoldir wedi’u rhostio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio llysiau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio llysiau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y llysiau’n bodloni safonau ansawdd
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio llysiau
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio llysiau
- Coginio’r llysiau i fodloni gofynion
- Gorffen y llysiau i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y llysiau ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
- Storio unrhyw lysiau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio llysiau wedi’u rhewi a heb eu rhewi cyn eu coginio
- Beth i chwilio amdano mewn llysiau cyn eich bod yn eu coginio
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau, ac i bwy
- Pa offer a chyfarpar ddylech chi eu defnyddio ar gyfer pob dull coginio’r llysiau
- Sut i gyflawni pob dull coginio’r llysiau yn gywir
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth goginio llysiau
- Pam y gall fod angen osgoi halogi gan gynhyrchion cig a physgod, a sut i wneud hynny
- Sut i storio llysiau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
1.1 wedi’u rhewi
1.2 wedi’u paratoi ymlaen llaw
1.3 ffres
2. Dulliau coginio
2.1 berwi
2.2 ffrio
2.3 grilio
2.4 coginio yn y microdon
2.5 pobi
2.6 rhostio