Pecynnu bwyd i’w ddosbarthu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phecynnu bwyd i’w ddosbarthu, gan gynnwys bwyd poeth, bwyd wedi’i oeri a bwyd ar dymheredd amgylchol. Hefyd, mae’n ymwneud â labelu’r pecynnau yn glir ac yn gywir, yn ogystal â pha agweddau ansawdd y mae angen chwilio amdanynt yn y bwyd a’r pecynnau.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i becynnu bwyd i’w ddosbarthu; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Becynnu bwyd i’w ddosbarthu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr holl fwyd wedi cael ei baratoi’n gywir
- Pecynnu a selio bwyd yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- Labelu’r holl fwyd sydd wedi’i becynnu yn gywir ac yn glir
- Llwytho bwyd wedi’i becynnu i’r cynwysyddion cywir, yn barod i’w casglu
- Glanhau ardaloedd a chyfarpar pecynnu yn unol â safonau sefydliadol a chyfreithiol ar ôl eu defnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pam mae’n bwysig bod bwyd yn cael ei baratoi yn unol â’r gofynion
sefydliadol ar gyfer golwg a thymheredd cyn ei becynnu - Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn prydau wedi’u paratoi
- Sut a pham dylai seigiau gael eu labelu’n gywir ac yn glir
- Pam mae’n bwysig cadw cyfarpar ac ardaloedd pecynnu yn hylan wrth becynnau bwyd i’w ddosbarthu
- Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth becynnau bwyd i’r ddosbarthu
- Beth yw’r prif fygythiadau halogi wrth becynnu bwyd i’w ddosbarthu
- Pam mae’n bwysig sicrhau nad oes difrod i ddeunyddiau pecynnu cyn pecynnu bwyd
- Pa broblemau all ddigwydd yn gyffredin wrth becynnu bwyd a sut i’w hadnabod
- Pa broblemau all ddigwydd yn gyffredin gydag ansawdd bwyd a sut i’w hadnabod
Cwmpas/ystod
1. Bwyd
1.1 poeth
1.2 wedi’i oeri
1.3 ar dymheredd amgylchol