Paratoi a choginio wyau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau wy syml, er enghraifft:
• wyau wedi’u ffrio
• wyau wedi’u sgramblo
• wyau wedi’u berwi
• wyau wedi’u potsio
Mae’r technegau paratoi a choginio dan sylw yn cynnwys:
• cracio
• curo
• sesno
• berwi
• ffrio bas
• coginio ar gridyll
• sgramblo
• potsio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio wyau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio wyau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod yr wyau a’r cynhwysion eraill yn addas i’w coginio
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio wyau
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio wyau
- Paratoi’r wyau i fodloni gofynion
- Coginio’r wyau yn ôl y gofyn
- Gorffen yr wyau yn ôl y gofyn
- Sicrhau bod yr wyau ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
- Storio unrhyw wyau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio wyau amrwd
- Sut i wirio bod wyau amrwd yn addas i’w paratoi a’u coginio
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r wyau neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau paratoi a choginio
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i ddefnyddio’r dulliau paratoi a choginio
- Sut i ddweud p’un a yw wyau wedi’u coginio’n gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini wyau wedi’u coginio
- Y gofynion storio cywir ar gyfer wyau na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi
1.1 cracio
1.2 curo
1.3 sesno
2. Dulliau coginio
2.1 berwi
2.2 ffrio bas
2.3 ar gridyll
2.4 sgramblo
2.5 potsio