Paratoi llysiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi llysiau i’w defnyddio mewn prydau wedi’u coginio neu heb eu coginio, er enghraifft:
• cloron – tatws, artisiogau neu datws melys
• gwreiddlysiau – pannas, moron
• fflurbennau – blodfresych, brocoli
• dail – bresych, letys
Byddwch yn paratoi’r llysiau drwy:
• olchi
• plicio
• torri – sleisio, torri a mân-dorri
• blansio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi llysiau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi llysiau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y llysiau yn addas i gael eu paratoi
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi llysiau
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi llysiau
- Paratoi’r llysiau i fodloni’r gofynion
- Storio’n ddiogel unrhyw lysiau sydd wedi’u paratoi ond na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i storio llysiau wedi’u rhewi a heb eu rhewi cyn eu paratoi
- Beth ddylech chi chwilio amdano i wneud yn siŵr bod pob math o lysieuyn yn addas i’w baratoi
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer pob dull paratoi
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut dylech chi gyflawni pob dull paratoi yn gywir
- Y gofynion storio cywir ar gyfer llysiau sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
1.1 cloron
1.2 gwreiddlysiau
1.3 fflurbennau
1.4 dail
1.5 ffrwyth-lysiau
1.6 coesynnau
1.7 bylbiau
1.8 ffyngau sylfaenol
2. Dulliau paratoi
2.1 golchi
2.2 plicio
2.3 torri (sleisio / torri / mân-dorri)
2.4 blansio