Gweithio’n unigol a dilyn gweithdrefnau adrodd mewn amgylchedd glanhau

URN: PPL1HK5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio ar eich pen eich hun a sicrhau eich diogelwch eich hun wrth wneud hynny. Mae ar gyfer pobl sy’n cyflawni dyletswyddau glanhau wrth weithio ar eu pen eu hunain. Gallent fod yn gynorthwyydd cadw tŷ neu’n lanhawr. Wrth weithio ar eich pen eich hun, efallai bydd yn rhaid i chi ddelio â gweithwyr tîm o feysydd galwedigaethol eraill neu’r cyhoedd trwy ddarparu gwybodaeth iddynt, neu ryngweithio â nhw mewn rhyw ffordd arall. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’n bwysig ymddwyn yn briodol i greu argraff gadarnhaol o’ch cyflogwr a/neu’r gweithle.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Weithio’n unigol a dilyn gweithdrefnau adrodd mewn amgylchedd glanhau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cynnal lefelau cytunedig o gysylltiad â’r person priodol wrth gyflawni’r gwaith
  2. Dilyn y weithdrefn gywir ar gyfer cael mynediad i’r gweithle a’i adael
  3. Nodi risgiau sy’n bresennol yn y gweithle
  4. Gweithredu er mwyn lleihau risgiau yn y gweithle
  5. Rheoli mynediad i’r gweithle o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb eich hun
  6. Ymateb i gwsmeriaid ac i eraill a darparu gwybodaeth sy’n bodloni eu hanghenion
  7. Defnyddio’r amserlen waith i gwblhau’r gwaith
  8. Nodi tasgau na allwch eu cwblhau yn unigol a rhoi gwybod i’r person priodol
  9. Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw broblemau na allwch chi ddelio â nhw ar eich pen eich hun, sy’n effeithio ar iechyd a diogelwch neu sy’n effeithio ar enw da’r gweithle
  10. Cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw doriadau, difrod a tharfu yn y gweithle
  11. Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw waith sy’n anghyflawn a chytuno â’r person priodol ar drefniadau ar gyfer gorffen y gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Trefniadau ar gyfer cysylltu â’r person priodol a pha mor aml y dylid cysylltu wrth gyflawni’r gwaith
  2. Gweithdrefnau ar gyfer cael mynediad i’r gweithle
  3. Y mathau o risg sy’n bresennol yn y gweithle a phwysigrwydd gweithredu i leihau risgiau
  4. Lefel eich cyfrifoldeb chi am reoli mynediad i’r gweithle a phwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer mynediad
  5. Mathau o bobl awdurdodedig eraill sy’n gallu cael mynediad i’r gweithle
  6. Safonau ymddygiad a ddisgwylir yn y gweithle
  7. Pwysigrwydd rhoi argraff gadarnhaol i bobl eraill
  8. Gwahanol ffyrdd o gyfathrebu ag eraill a pham mae’n bwysig gwirio eich bod wedi cael eich deall
  9. Gofynion sefydliadol ar gyfer adrodd i’ch cyflogwr neu i gwsmer
  10. Gweithdrefnau a rheolau’r cyflogwr, gan gynnwys gweithdrefnau a chysylltiadau mewn argyfwng, sy’n berthnasol i'r ardal weithio
  11. Gofynion sefydliadol ar gyfer cofnodi difrod, toriadau a tharfu a achoswyd a phwysigrwydd rhoi gwybod amdanynt
  12. Gofynion sefydliadol ar gyfer gadael y gweithle a phwysigrwydd gadael y gweithle dan glo
  13. Ble i gael amserlen a chyfarwyddiadau gwaith
  14. Ardaloedd lle mae gennych awdurdod i gyflawni gwaith
  15. Pwysigrwydd asesu sut mae eich gwaith eich hun yn mynd yn ei flaen
  16. Pwysigrwydd nodi unrhyw dasgau na fyddwch chi’n gallu’u cwblhau yn unigol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Teilwra

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1HK5

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ)

Cod SOC

6231

Geiriau Allweddol

Glanhau