Helpu i lanhau a chynnal a chadw ardaloedd wedi’u dodrefnu

URN: PPL1HK4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch – Cadw Tŷ a Derbynfa Blaen Tŷ
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a glanhau arwynebau fel pren, plastig a ffabrig. Hefyd, mae’n ymwneud â glanhau lloriau a gorchuddion llawr, fel carpedi, finyl a chorcyn. Yn olaf, mae’r safon yn delio â gwasanaethu ardaloedd wedi’u dodrefnu, er enghraifft gwirio’r gwresogi/goleuo a gwacau biniau. Mae ar gyfer cynorthwywyr cadw tŷ a glanhawyr sy’n glanhau’r ardaloedd hyn yn rheolaidd. Mae glendid a golwg ardaloedd ym mhob math o sefydliad yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau boddhad gwesteion. Gall gwesteion neu gwsmeriaid fod yn gyflym iawn i wneud sylw, yn enwedig ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai’r ardal fod yn gyntedd mewn gwesty, ardal i westeion mewn cartref preswyl, yn ystafell fwyta mewn lleoliad gwely a brecwast, yn ogystal ag ystafelloedd gwely.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Helpu i lanhau a chynnal a chadw ardaloedd wedi’u dodrefnu


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio amserlenni ar gyfer llwyth gwaith arfaethedig
  2. Paratoi’r ardal weithio i’w glanhau
  3. Gwirio a pharatoi cyfarpar a deunyddiau glanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr cyn eu defnyddio
  4. Glanhau arwynebau, dodrefn a gosodiadau fel eu bod yn rhydd rhag llwch, malurion a marciau y gellir cael gwared arnynt
  5. Glanhau’r llawr a gorchuddion llawr yn ddiogel ac yn systematig, gan wirio bod lloriau a gorchuddion lloriau gorffenedig yn sych ac yn rhydd rhag llwch, baw, malurion a marciau y gellir cael gwared arnynt, a gwaredu gwastraff a dŵr budr yn gywir ac yn ddiogel
  6. Dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau
  7. Glanhau a storio cyfarpar a deunyddiau glanhau yn gywir ar ôl eu defnyddio
  8. Cyfleu delwedd gadarnhaol o’r sefydliad wrth ddod i gysylltiad â chwsmeriaid ac aelodau eraill o staff
  9. Gwirio bod systemau gwresogi, goleuo ac awyru wedi’u gosod yn gywir
  10. Gwirio nad oes arogleuon annymunol mewn ardaloedd wedi’u dodrefnu
  11. Gwacau biniau gwastraff a’u gadael yn lân ac yn barod i’w defnyddio
  12. Paratoi gwastraff i’w gasglu, gan ei sortio yn unol â gweithdrefnau amgylcheddol a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae’n bwysig ystyried amserlenni wrth lanhau a chynnal a chadw ardaloedd wedi’u dodrefnu
  2. Pam mae’n bwysig cyfleu delwedd gadarnhaol o’ch sefydliad i gwsmeriaid a staff eraill wrth weithio
  3. Pam dylech chi wisgo dillad amddiffynnol pan fyddwch chi’n glanhau
  4. Pam na ddylech chi gymysgu deunyddiau glanhau
  5. Pam dylech chi osod arwyddion perygl ac amddiffyn ardaloedd cyfagos
  6. Pam dylech chi gael gwared ar holl olion deunyddiau glanhau o arwynebau mewnol, dodrefn, darnau gosod a gosodiadau
  7. Pa ragofalon y dylech eu cymryd wrth ddefnyddio ysgolion neu symud dodrefn wrth lanhau
  8. Pam dylech chi amddiffyn ardaloedd cyfagos wrth lanhau arwynebau mewnol, dodrefn, darnau gosod a gosodiadau
  9. Pam dylech chi ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
  10. Sut i ddelio â chyfarpar pan fyddwch chi wedi gorffen ei ddefnyddio
  11. Sut i nodi a rhoi gwybod am gyfarpar y mae angen ei drwsio neu ei wasanaethu
  12. Gofynion cyfreithiol sylfaenol perthnasol o ran defnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
  13. Pa ragofalon y dylech eu cymryd wrth weithio uwchlaw lefel uchder llaw
  14. Pa beryglon sy’n cael eu hachosi os daw dŵr i gysylltiad â chyflenwadau trydan neu fatris wrth lanhau lloriau a gorchuddion lloriau
  15. Pa ragofalon y dylech eu cymryd i osgoi sioc drydanol wrth lanhau lloriau a gorchuddion lloriau
  16. Sut i osgoi achosi llithriadau wrth lanhau lloriau a gorchuddion lloriau
  17. Sut i waredu deunyddiau glanhau sydd wedi cael eu defnyddio yn ddiogel ac yn gywir
  18. Beth yw’r gwahanol amodau amgylcheddol a pham mae’n bwysig eu cynnal yn briodol
  19. Pam mae’n bwysig nodi gwastraff yn gywir, pam ddylid trin a gwaredu gwastraff yn gywir, beth yw’r gwahanol ffyrdd o ddelio â gwastraff, pam mae’n bwysig defnyddio’r ffordd briodol a sut gallwch chi nodi gwastraff peryglus

Cwmpas/ystod

1. Paratoi’r ardal weithio
19.1 defnyddio cyfarpar diogelu personol
19.2 gosod arwyddion rhybudd perygl
19.3 amddiffyn ardaloedd cyfagos

2. Arwynebau, dodrefn, darnau gosod a gosodiadau
2.1 pren
2.2 plastig / finyl / linoliwm / laminiad
2.3 gwydr
2.4 ceramig / carreg / marmor / gwenithfaen
2.5 metel
2.6 arwynebau wedi’u paentio
2.7 ffabrig

3. Cyfarpar a deunyddiau
3.1 cyfarpar â llaw
3.2 cyfarpar pŵer
3.3 cemegion glanhau

4. Gwastraff
4.1 peryglus
4.2 ddim yn beryglus

5. Dulliau casglu
5.1 casglu allanol
5.2 llosgi / cywasgu
5.3 ailgylchu


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1HK4

Galwedigaethau Perthnasol

Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell

Cod SOC

6231

Geiriau Allweddol

Glanhau, cynnal a chadw, ardaloedd wedi’u dodrefnu