Helpu i wasanaethu toiledau ac ystafelloedd ymolchi
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau toiledau, ymolchfeydd, ystafelloedd ymolchi ac ardaloedd cyfagos. Hefyd, mae’n ymwneud ag ailgyflenwi cyflenwadau fel papur tŷ bach, sebon, tywelion a gwaredu gwastraff. Mae ar gyfer gweinyddion ystafelloedd neu lanhawyr sy’n glanhau toiledau ac ystafelloedd ymolchi yn rheolaidd. Nid dyma’r gwaith mwyaf deniadol, ond mae’n hynod bwysig serch hynny. Mae glendid a chynnal a chadw unrhyw sefydliad yn faes y gall gwesteion neu gwsmeriaid fod yn gyflym iawn i roi sylwadau arno, yn enwedig ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Helpu i wasanaethu toiledau ac ystafelloedd ymolchi
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio amserlenni ar gyfer llwyth gwaith arfaethedig a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- Paratoi’r ardal weithio i’w glanhau
- Cyflwyno delwedd gadarnhaol ohonoch eich hun ac o’ch sefydliad pan fyddwch chi’n dod i gysylltiad â chwsmeriaid neu staff
- Glanhau’r tu mewn i’r toiled fel nad oes arno faw na marciau y gellir cael gwared arnynt
- Gwirio bod toiledau yn flysio ac yn draenio’n rhydd
- Glanhau’r tu allan i’r toiled fel nad oes arno faw na marciau y gellir cael gwared arnynt
- Glanhau basnau a thapiau fel nad oes arnynt faw na marciau y gellir cael gwared arnynt
- Glanhau offer, arwynebau, darnau gosod a gosodiadau ystafelloedd ymolchi fel eu bod yn sych a heb faw na marciau y gellir cael gwared arnynt
- Glanhau’r lloriau, y waliau, y drychau a’r arwynebau cyfagos eraill
- Gwirio nad oes rhwystrau mewn tyllau plwg a gorlifoedd
- Defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chemegion glanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ag eiddo personol cwsmeriaid
- Glanhau cyfarpar a deunyddiau glanhau a’u storio’n gywir ar ôl eu defnyddio
- Gwirio ac ailgyflenwi cyflenwadau ac ategolion cwsmeriaid yn unol â gofynion sefydliadol
- Trefnu cyflenwadau ac ategolion cwsmeriaid, yn unol â chyfarwyddyd
- Gwirio bod cyflenwadau ac ategolion cwsmeriaid yn lân a heb ddifrod
- Rhoi gwybod i’r aelod priodol o staff am unrhyw brinder stoc
- Gwirio bod biniau gwastraff yn wag, yn lân ac yn barod i’w defnyddio
- Nodi gwastraff a’i baratoi i’w waredu gan ddilyn pob gweithdrefn amgylcheddol a chynaliadwyedd sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd gweithio yn ôl amserlenni
- Safonau eich sefydliad ar gyfer toiledau ac ystafelloedd ymolchi
- Pam dylech chi wisgo dillad amddiffynnol pan fyddwch chi’n glanhau
- Pam na ddylech chi ddefnyddio cyfarpar glanhau toiledau ac ystafelloedd ymolchi mewn ardaloedd eraill
- Pam na ddylech chi gymysgu gwahanol ddeunyddiau glanhau a pham ddylech chi ddeall y goblygiadau i iechyd a diogelwch os bydd hyn yn digwydd
- Pam dylech chi ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
- Y mathau o broblemau y gallech ddod ar eu traws wrth lanhau toiledau ac ystafelloedd ymolchi a sut i ddelio â’r rhain
- Beth i’w wneud os daw cwsmer i mewn tra byddwch chi’n glanhau toiled neu ystafell ymolchi
- Deddfwriaeth berthnasol sylfaenol ynghylch sylweddau a all fod yn beryglus i iechyd
- Gweithdrefnau amgylcheddol a chynaliadwyedd y sefydliad wrth ddelio â gwastraff
- Sut i baratoi ardaloedd toiled, ystafell ymolchi ac ymolchfa i’w glanhau
- Pam dylech chi gael gwared ar holl olion deunyddiau glanhau o offer toiledau
- Pa brosesau glanhau y dylech eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o arwynebau, offer toiled, basnau a lefel y budreddi
- Sut mae glanhau effeithiol yn helpu i reoli heintiau
- Sut i lanhau eitemau eraill y gallech ddod ar eu traws mewn ystafell ymolchi, fel ffôn
- Safonau eich sefydliad ar gyfer ailgyflenwi cyflenwadau ac ategolion cwsmeriaid
- Pam mae’n bwysig nodi gwastraff yn gywir, trin a gwaredu gwastraff yn gywir, a’r mathau o wastraff peryglus y gallech ddod ar eu traws a sut i ddelio â’r rhain
- Pam dylech chi gynnal cyflenwad cyson o gyflenwadau ac ategolion
Cwmpas/ystod
1. Paratoi’r ardal weithio
18.1 defnyddio cyfarpar diogelu personol
18.2 gosod arwyddion rhybudd perygl
18.3 amddiffyn ardaloedd cyfagos
18.4 sicrhau bod yr ystafell wedi’i hawyru’n briodol
2. Arwynebau
2.1 plastig
2.2 ceramig
2.3 dur gwrthstaen / crôm / metelau eraill
2.4 gorchuddion llawr
2.5 carreg
2.6 marmor
2.7 pren
2.8 gwydr
3. Dodrefn toiled, ystafell ymolchi ac ymolchfa
3.1 toiledau
3.2 wrinalau
3.3 basnau
3.4 baddonau
3.5 baddonau sba
3.6 cawodydd / teclyn cawod
3.7 dodrefn erail fel byrddau a chadeiriau
4. Cyfarpar a deunyddiau glanhau
4.1 brwsh tŷ bach a theclyn dal
4.2 clytiau glanhau
4.3 cemegion / hylifau glanhau
4.4 padiau sgraffinio
4.5 mopiau a bwcedi
5. Cyflenwadau ac ategolion cwsmeriaid
5.1 untro / tafladwy
5.2 ailddefnyddiadwy
6. Gwastraff
6.1 peryglus
6.2 ddim yn beryglus
7. Dulliau gwaredu
7.1 casglu allanol
7.2 ailgylchu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dillad amddiffynnol
Er enghraifft, menig ac oferôls
Gwastraff peryglus
Er enghraifft, gwrthrychau miniog neu gemegion
Gwastraff nad yw’n beryglus
Er enghraifft, papur