Glanhau ffenestri o’r tu mewn
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau arwynebau mewnol ffenestri, gan ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau priodol. Nid yw’r safon hon yn gofyn eich bod chi’n gweithio uwchlaw uchder y gallwch ei gyrraedd â llaw. Mae ar gyfer gweinyddion ystafelloedd neu lanhawyr sy’n glanhau ffenestri yn rheolaidd. Mae ffenestr lân mewn ystafell yn helpu i ddangos ymhellach lefel uchel o lendid ar draws y sefydliad.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Lanhau ffenestri o’r tu mewn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi eich ardal weithio a’ch cyfarpar yn unol â gofynion iechyd a diogelwch eich gweithle
- Archwilio’r arwyneb i’w lanhau
- Nodi unrhyw arwynebau sydd wedi’u difrodi neu sy’n rhydd
- Rhoi gwybod i’r person perthnasol am arwynebau sydd wedi’u difrodi neu sy’n rhydd
- Dewis deunyddiau a dulliau glanhau sy’n briodol i’ch amserlen waith, y math o faw a’r arwyneb byddwch chi’n ei lanhau
- Ychwanegu’r cyfrwng glanhau at yr arwyneb mewn ffordd reoledig, gan ddilyn cyfarwyddiadau ac argymhellion y gwneuthurwr
- Rhyddhau baw sy’n gaeth i’r arwyneb heb achosi difrod
- Rhwbio’r baw yn drylwyr a’i waredu heb ddifrodi’r arwyneb
- Rhoi gwybod i’r person perthnasol am unrhyw faw na allwch ei waredu
- Gadael ffenestri a gwydr yn sych a heb staeniau
- Gwirio bod fframiau a siliau yn sych
- Ailosod yr ardal waith fel yr oedd cyn dechrau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Safonau eich sefydliad ar gyfer glanhau ffenestri
- Pa mor aml ddylai ffenestri gael eu glanhau yn eich sefydliad
- Pam dylech chi wisgo cyfarpar diogelu personol wrth lanhau
- Pam na ddylech chi gymysgu deunyddiau glanhau
- Pam ddylech chi ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr wrth ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau
- Y mathau o broblemau y gallech ddod ar eu traws wrth lanhau ffenestri a sut i ddelio â’r rhain
- Beth i’w wneud os bydd ardaloedd y ffenestri uwchlaw uchder cyrraedd â llaw
- Beth yw goblygiadau amgylcheddol/cynaliadwyedd y cynhyrchion a’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio i lanhau ffenestri
- Pam mae’n bwysig paratoi ffenestri a’r ardaloedd cyfagos ar gyfer glanhau
- ;Pam ddylech chi nodi a rhoi gwybod am unrhyw arwynebau sy’n rhydd neu sydd wedi’u difrodi
- Y mathau o gyfarpar a deunyddiau y dylech eu defnyddio ar gyfer baw rhydd a baw sy’n anodd ei waredu
- Pam ddylech chi roi gwybod am unrhyw faw na allwch chi ei waredu
- Pam ddylech chi adael fframiau a siliau yn sych
Cwmpas/ystod
1. Paratoi’r ardal weithio
13.1 defnyddio cyfarpar diogelu personol
13.2 gosod arwyddion rhybudd perygl
13.3 amddiffyn ardaloedd cyfagos
13.4 lleoli cemegion a chyfarpar
2. Arwynebau
2.1 ffenestri
2.2 fframiau ffenestri
2.3 siliau
3. Cyfarpar a deunyddiau glanhau
3.1 clytiau glanhau
3.2 cemegion glanhau
3.3 cyfarpar â llaw
3.4 cyfarpar electronig
4. Baw
4.1 baw rhydd
4.2 baw sy’n anodd ei waredu