Darparu cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
URN: PPL1GEN9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu lefel sylfaenol o wybodaeth i gwsmeriaid am eitemau ar y fwydlen sy’n cynnwys alergenau, a chynnig dewisiadau addas yn eu lle i leihau risg adweithiau niweidiol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynghori cwsmeriaid ar bresenoldeb alergenau mewn eitemau ar y fwydlen
- Ymateb i geisiadau cwsmeriaid am wybodaeth am alergenau o fewn terfynau eich awdurdod chi
- Hyrwyddo seigiau sy’n addas i ofynion cwsmeriaid
- Ceisio cyngor ac arweiniad gan y person priodol os na allwch ddelio â’r cais yn bersonol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
- Y prif alergenau bwyd
- Pam mae’n bwysig cyfleu gwybodaeth gywir am alergenau i gwsmeriaid
- Sut i gyfleu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid
- Sut i gynghori cwsmeriaid am seigiau addas yn unol â’u gofynion o ran alergedd
- Sut i adnabod seigiau ar y fwydlen sy’n cynnwys y prif alergenau
- Pwysigrwydd cymryd y camau priodol i sicrhau nad yw’r cwsmer yn bwyta bwyd y mae’n alergaidd iddo
- Canlyniadau posibl rhoi gwybodaeth anghywir am alergenau i’r cwsmer
- Pwy i gysylltu â nhw i gael cymorth ar ddarparu gwybodaeth gywir am alergenau i gwsmeriaid
Cwmpas/ystod
1 Alergenau bwyd
• Grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten
• Cnau mwnci
• Cnau
• Llaeth
• Soia
• Mwstard
• Bysedd y blaidd
• Wyau
• Pysgod
• Cramenogion
• Molysgiaid
• Hadau sesame
• Seleri
• Sylffwr deuocsid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1GEN9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinydd/Gweinyddes
Cod SOC
9264
Geiriau Allweddol
alergen;