Cynnal a chadw peiriant gwerthu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau’r tu mewn a’r tu allan i beiriant gwerthu nwyddau, profi’r peiriant a chwblhau unrhyw ddogfennaeth berthnasol. Hefyd, mae’r safon yn ymwneud â gweithgareddau tebyg ar gyfer peiriannau diodydd, gweithdrefnau ar gyfer llenwi peiriannau gwerthu bywyd a diodydd wedi’u hoeri ac ar dymheredd amgylchol (ambient), a’r dulliau o gyflwyno nwyddau i’w gwerthu.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynnal a chadw peiriant gwerthu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Glanhau peiriant gwerthu nwyddau
- Ynysu’r cyflenwad trydan yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Dewis cyfarpar a deunyddiau glanhau sy’n briodol i’r dasg a’u paratoi i’w defnyddio
- Gwisgo cyfarpar diogelu personol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Glanhau’r peiriant yn unol â’r amserlen lanhau sydd wedi’i phennu
- Gadael y tu mewn a’r tu allan i’r peiriant yn lân, yn sych a heb olion
- Profi’r peiriant gwerthu i sicrhau ei fod yn gweithio’n ôl yr arfer
- Cwblhau’r holl gofnodion angenrheidiol
- Gadael yr ardal sy’n uniongyrchol o gwmpas y peiriant yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
Glanhau peiriant gwerthu diodydd
9. Ynysu’r cyflenwad trydan yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
10. Dewis cyfarpar a deunyddiau glanhau sy’n briodol i’r dasg a’u paratoi i’w defnyddio
11. Gwisgo dillad amddiffynnol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
12. Tynnu’r rhannau gweithio mewnol allweddol ar led i’w glanhau
13. Paratoi’r peiriant a’i rannau gweithio mewnol i’w glanhau
14. Glanhau’r peiriant a’i rannau gweithio mewnol yn unol â’r amserlenni glanhau sydd wedi’u pennu a’r gofynion iechyd a diogelwch priodol
15. Gadael y tu mewn a’r tu allan i’r peiriant yn lân, yn sych a heb olion
16. Cwblhau’r holl gofnodion angenrheidiol
17. Profi’r peiriant gwerthu i sicrhau ei fod yn gweithio’n gywir
Llenwi peiriant gwerthu
18. Ynysu’r trydan yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
19. Tynnu a gwaredu unrhyw stoc sydd eisoes yn y peiriant ac sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad dirwyn i ben
20. Gosod y nifer a’r mathau cywir o eitemau yn y peiriant, arddangos yr eitemau gan ddefnyddio dulliau cyflwyno priodol a fydd yn sicrhau’r nifer uchaf o werthiannau o’r peiriant a defnyddio dewisiadau addas yn lle eitemau nad ydynt ar gael
21. Dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc
22. Profi’r peiriant gwerthu i sicrhau ei fod yn gweithio yn ôl yr arfer
23. Cwblhau’r holl gofnodion angenrheidiol a gwneud newidiadau i wybodaeth, lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion diogel a hylan i’w dilyn wrth lanhau peiriant gwerthu
- Pam mae’n bwysig gwirio a yw’r cyflenwad trydan wedi’i ynysu’n ddiogel, os yw’n berthnasol i’r peiriant
- Pam mae’n bwysig gwisgo dillad amddiffynnol
- Pam mae’n bwysig peidio â chymysgu cemegion
- Beth yw’r mesurau defnydd priodol ar gyfer y cyfryngau glanhau
- Pam mae’n bwysig bod y tu mewn a’r tu allan i’r peiriant yn cael ei adael yn lân, yn sych ac yn rhydd rhag olion
- Pam mae’n bwysig cadw’r ardal sy’n uniongyrchol o gwmpas y peiriant gwerthu yn lân ac yn daclus
- Pam mae angen dilyn arferion a threfniannau gwaith
- Pam mae’n bwysig cwblhau prawf gwerthu
- Problemau a all ddigwydd wrth lanhau peiriant gwerthu a sut i ddelio â’r rhain
- Arferion gweithio diogel a hylan i’w dilyn wrth lenwi peiriant gwerthu
- Pa broblemau a all ddigwydd wrth lenwi peiriant a pha weithdrefnau y mae angen eu dilyn os nodir namau neu broblemau
- Pam mae’n bwysig bod y tu mewn i’r peiriant yn lân cyn ailgyflenwi
- Pam mae angen cyflawni profion tymheredd
- Pam mae angen dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc
- Pa ddogfennaeth y mae angen ei chwblhau’n gywir
- Beth yw’r amserlenni dyddiol
- Pam mae cynlluniau marsiandïaeth yn cael eu defnyddio a sut dylai eitemau gael eu cyflwyno i sicrhau’r nifer fwyaf o werthiannau
- Pam dylai newidiadau i wybodaeth fod yn gywir
Cwmpas/ystod
1. Deunyddiau glanhau
19.1 glanweithydd
19.2 sterilydd
2. Peiriant (bwyd)
2.1 peiriant bwyd wedi’i oeri
2.2 peiriant caniau
2.3 peiriant ar dymheredd amgylchol
3. Rhannau gweithio
3.1 blwch cynhwysion
3.2 uned drwytho
3.3 silindr nwy carbon deuocsid
4. Peiriant (diodydd)
4.1 mewn cwpan / bag bychan / cetrisen / dosbarthydd
4.2 peiriannau parod
4.3 diod ffres
5. Dulliau cyflwyno
5.1 gwelededd y label
5.2 amrywiaeth y cynhyrchion
6. Newidiadau i wybodaeth
6.1 cyfrifiadurol/â llaw
6.2 gwybodaeth am y fwydlen
6.3 gwybodaeth am y pris