Glanhau a storio llestri a chytleri
URN: PPL1GEN5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Cyffredinol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau llestri a chytleri â pheiriant neu â llaw, gwaredu eitemau sydd wedi torri neu eu difrodi a gwaredu gwastraff a dŵr budr. Hefyd, mae’n ymwneud â storio cytleri a llestri, a’u llathru, lle bo angen.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Glanhau a storio llestri a chytleri
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Paratoi llestri ac eitemau cytleri i’w glanhau
- Sicrhau bod y cyfarpar a’r peiriannau glanhau yn lân, heb eu difrodi ac yn barod i’w defnyddio
- Defnyddio deunyddiau glanhau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- Glanhau eitemau gan ddefnyddio’r dulliau glanhau priodol ar y tymheredd argymelledig
- Sicrhau bod eitemau gorffenedig yn lân, yn sych a heb ddifrod
- Gwaredu eitemau sydd wedi torri neu eu difrodi yn gywir
- Gwaredu gwastraff neu ddŵr budr yn gywir
- Gadael cyfarpar neu beiriannau glanhau yn lân, heb eu difrodi ac yn barod i’w defnyddio yn y dyfodol
- Sicrhau bod eitemau i’w storio yn sych ac yn lân
- Cadw ardaloedd storio yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
- Pentyrru llestri yn ofalus a’u storio yn y lleoliad cywir, yn barod i’w defnyddio
- Llathru cytleri, lle bo’n briodol, a’i storio yn y lleoliad cywir yn barod i’w ddefnyddio
- Gwaredu llestri sydd wedi torri neu eu difrodi gan ddilyn gweithdrefnau argymelledig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y dulliau cywir o baratoi llestri a chytleri i’w glanhau
- Sut i wirio cyfarpar a pheiriannau glanhau
- Cymarebau gwanedu ar gyfer deunyddiau glanhau
- Y dulliau cywir o lanhau llestri a chytleri
- Beth yw’r gweithdrefnau os bydd llestri’n torri
- Pwysigrwydd gadael cyfarpar glanhau yn barod i’w ddefnyddio yn y dyfodol
- Pa fathau o broblemau all ddigwydd wrth lanhau llestri a chytleri a sut dylech chi ddelio â’r rhain
- Pa eitemau ddylai fod yn lân ac yn sych cyn eu storio
- Pam dylai ardaloedd storio fod yn lân, yn daclus ac yn rhydd rhag sbwriel
- Lleoliadau storio cywir ar gyfer llestri a chytleri a pham dylai eitemau gael eu storio yn y lle cywir
- Pa fathau o broblemau all ddigwydd wrth storio llestri a chytleri a sut dylech chi ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Dulliau glanhau
11.1 â pheiriant
11.2 â llaw
2. Eitemau i’w storio
2.1 llestri
2.2 cytleri
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPL1GEN5
Galwedigaethau Perthnasol
Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar
Cod SOC
9264
Geiriau Allweddol
glanhau, storio, llestri, cytleri, paratoi