Gweithio fel rhan o dîm lletygarwch

URN: PPL1GEN4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd,Lletygarwch - Cyffredinol,Systemau Dosbarthu Diodydd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud cyfraniad defnyddiol at waith tîm, h.y. y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Mae ‘tîm’ yn cynnwys eich rheolwr llinell neu’ch goruchwylydd, ynghyd â phobl eraill yn eich tîm sy’n gweithio ar yr un lefel â chi. Mae’r safon yn cynnwys dilyn cyfarwyddiadau’n gywir; gweithio ar amser; helpu pobl eraill pan fydd angen help arnynt; cyfathrebu â’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw; cael adborth ar yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda a ble gallech wella, a pharhau i ddysgu a’ch datblygu eich hun.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Weithio fel rhan o dîm lletygarwch


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio eich bod yn deall gofynion y gwaith
  2. Gofyn cwestiynau am bethau nad ydych yn eu deall
  3. Dilyn cyfarwyddiadau’n gywir
  4. Cwblhau tasgau gofynnol i’r lefel gytunedig
  5. Trefnu popeth y mae ei angen arnoch ar gyfer eich gwaith
  6. Cadw’ch ardal weithio mor lân a thaclus â phosibl
  7. Gofyn am help neu gymorth gan y person perthnasol os oes ei angen arnoch
  8. Cynorthwyo aelodau’r tîm pan fyddant yn gofyn am help o fewn cyfyngiadau eich rôl ac os nad yw’n eich atal rhag cwblhau eich gwaith eich hun ar amser
  9. Trosglwyddo gwybodaeth bwysig i aelodau’r tîm cyn gynted â phosibl
  10. Cynnal perthnasoedd gwaith da ag aelodau’r tîm
  11. Rhoi gwybod am unrhyw broblemau â pherthnasoedd gwaith i’r person perthnasol
  12. Cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gydag aelodau’r tîm
  13. Ceisio adborth ar eich gwaith, cael yr adborth hwn a delio ag ef yn gadarnhaol
  14. Gyda’r person perthnasol, nodi pa agweddau ar eich gwaith sy’n cyrraedd y safon a meysydd lle gallech wella
  15. Cytuno ar beth mae’n rhaid i chi ei wneud i wella’ch gwaith
  16. Cytuno ar gynllun datblygu gyda’r person perthnasol
  17. Adolygu a datblygu eich cynllun

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pam mae’n hanfodol deall gofynion y gwaith
  2. Buddion cynllunio a threfnu eich gwaith i chi ac i’ch tîm
  3. Sut i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’ch amser ac osgoi pethau a all darfu’n ddiangen arno
  4. Buddion cadw popeth y mae ei angen arnoch ar gyfer eich gwaith yn drefnus ac ar gael
  5. Sut mae gweithio’n ddiogel ac yn hylan yn cyfrannu at waith tîm effeithiol
  6. Pryd i ofyn am help ac i bwy y gallech ofyn
  7. Pam mae gwaith tîm effeithiol yn bwysig
  8. Y bobl yn eich tîm a sut maen nhw’n ffitio i’r sefydliad
  9. Cyfrifoldebau’r tîm a pham mae’n bwysig i’r sefydliad yn ei gyfanrwydd
  10. Sut i gynnal perthnasoedd gwaith da a chydweithredu ag aelodau’r tîm
  11. Sut i benderfynu a fydd helpu aelod o’r tîm yn eich atal rhag cwblhau eich gwaith eich hun ar amser
  12. Cyfyngiadau eich rôl a beth allwch ac na allwch ei wneud wrth helpu aelodau’r tîm
  13. Beth allai fod yn wybodaeth bwysig y mae angen ei throsglwyddo i aelod o’r tîm a pham mae angen i chi ei throsglwyddo cyn gynted â phosibl
  14. Y mathau o ymddygiad cadarnhaol sy’n helpu’r tîm i weithio’n dda a’r mathau nad ydynt yn helpu
  15. Pryd, sut a pham dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda pherthnasoedd gwaith
  16. Sut i gyfathrebu’n glir a pham mae’n bwysig
  17. Pam mae’n bwysig gwella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau
  18. Sut i gael adborth a sut gall hyn eich helpu chi
  19. Sut dylai cynllun datblygu helpu i wella’ch gwaith a pham mae’n bwysig adolygu eich cynllun datblygu yn rheolaidd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL1GEN4

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Aelod o'r tîm, Gweinydd/Gweinyddes, Staff bar, Derbynnydd, Gwasanaethydd ystafell (cadw tŷ), Morwyn ystafell, Technegydd Systemau Dosbarthu Diodydd, Technegydd y Tim Cynnal a Chadw

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

gwaith; tîm; lletygarwch